Skip to main content

Helpu gyda’n hymchwil i trawma

Ynglŷn â’r astudiaeth hon

Rydym yn ceisio deall mwy am drawma, profiad fel plentyn ac fel oedolyn, a’i effaith ar iechyd meddwl. Ein nod hirdymor yw helpu i wella diagnosis, triniaeth a chefnogaeth i’r rhai sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig.

Cymryd rhan

Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol i ni amdanoch chi’ch hun, eich profiadau o drawma, fel plentyn ac fel oedolyn, a’ch iechyd meddwl, er mwyn helpu i ateb cwestiynau ymchwil pwysig.

Gallai ateb cwestiynau am brofiadau trawmatig yn eich gorffennol achosi rhywfaint o ofid i chi.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan ac nid oes angen i chi ateb unrhyw gwestiynau sy’n peri gofid i chi.

Rydym hefyd eisiau adnabod pobl a fyddai’n fodlon cysylltu â nhw ynghylch cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil iechyd meddwl yn y dyfodol.

Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?

Mae cymryd rhan yn wirfoddol: chi sydd i benderfynu a ydych am gofrestru.

Os byddwch yn ymuno â ni, gofynnir i chi a fyddech yn fodlon gwneud y canlynol:

  1. Rhowch eich manylion cyswllt i ni (e.e. cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) a rhywfaint o wybodaeth bersonol (e.e. dyddiad geni, grŵp ethnig a statws cyflogaeth).
  2. Atebwch rai cwestiynau am eich profiadau o drawma (fel plentyn ac fel oedolyn) a’ch iechyd meddwl. Bydd hyn yn cymryd tua 10-15 munud.
  3. Gadewch i ni gysylltu â chi yn y dyfodol am astudiaethau eraill yr hoffech gymryd rhan ynddynt. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnoch i gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn yn y dyfodol.
  4. Caniatáu i ni gysylltu â chi bob 6-12 mis, i’ch gwahodd i ddarparu mwy o wybodaeth am eich iechyd meddwl a chorfforol a’ch ffordd o fyw.
  5. Caniatáu i ni rannu gwybodaeth ddienw gydag ymchwilwyr eraill os oes ganddynt gymeradwyaeth wyddonol a moesegol ar gyfer y cwestiynau yr hoffent eu hateb.

Chwilio am fwy o wybodaeth yn gyntaf? Rydym wedi llunio’r atebion i rai cwestiynau cyffredin.

Byddwn yn defnyddio eich atebion i wella ein dealltwriaeth o drawma ac iechyd meddwl.

Cymorth

Mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd neu’n ofidus i ateb cwestiynau am eu gorffennol a’u profiadau annymunol. Fel arfer, nid yw unrhyw ofid yn para’n hir iawn. Os ydych chi’n cynhyrfu gallwch gymryd hoe neu roi’r gorau i ateb y cwestiynau’n gyfan gwbl. Ewch i’n tudalen gymorth i gael gwybodaeth am sefydliadau y gallwch eu ffonio os oes angen rhywfaint o gymorth arnoch.

Ar ôl i chi ymuno, gallwch ddewis a ydych am gymryd rhan yn unrhyw un o’r holiaduron, astudiaethau neu ddigwyddiadau yr ydym yn dweud wrthych amdanynt pan fyddwn yn cysylltu â chi.

Cwestiynau Cyffredin

I gymryd rhan, ewch i’n platfform holiadur ar-lein.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd