Astudiaeth iechyd meddwl myfyrwyr
Help gydag ymchwil
Helpwch ni i ddeall beth sy’n cefnogi lles myfyrwyr mewn gwirionedd a beth sydd angen ei newid drwy gwblhau arolwg iechyd meddwl a lles myfyrwyr Nurture-U.
Mae’n agored i bob myfyriwr – ewch i’n platfform ar-lein i ddechrau.
Ynglŷn â’r astudiaeth
Mae Prosiect Ymchwil Nurture-U yn astudiaeth ledled y DU sy’n gweithio i wneud bywyd prifysgol yn well i fyfyrwyr ym mhobman. Fe’i hariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Mae’n dod â chwe phrifysgol ynghyd: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Southampton, a Phrifysgol Newcastle, ac mae’n gweithio’n agos gyda Chanolfan U-Flourish ym Mhrifysgol y Frenhines, Canada, a ddechreuodd ei chenhadaeth i wella lles myfyrwyr yn ôl yn 2018.
Dr Liz Forty o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl sy’n arwain y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd.
Hyd yn hyn, mae mwy na 12,000 o fyfyrwyr wedi rhannu eu profiadau, gan gynnwys tua 1,500 o Brifysgol Caerdydd, gan ein helpu i ddysgu:
- Sut mae myfyrwyr yn teimlo
- Beth sy’n achosi straen
- Beth sy’n eu helpu i aros yn iach
- A sut mae’r profiadau hyn yn amrywio o berson i berson
Mae eich adborth yn helpu i lunio gwasanaethau, adnoddau a systemau cymorth gwell i bob myfyriwr. Darllenwch ein canfyddiadau diweddar.
Cymerwch ran heddiw a gwnewch wahaniaeth
FAQs
Ydych chi’n chwilio am fwy o wybodaeth yn gyntaf? Rydym wedi llunio’r atebion i rai cwestiynau cyffredin.