Helpu gyda’n ymchwil
Diolch am glicio ar y ddolen testun a anfonodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) yn cydweithio i geisio cael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn ein hastudiaeth i helpu i ddeall achosion a sbardunau iechyd meddwl.
YnglĹ·n â’r astudiaeth
Rydym yn ceisio deall pam mae rhai pobl yn dioddef o broblemau gyda’u hiechyd meddwl. Drwy gymharu gwybodaeth gan bobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl â gwybodaeth gan bobl nad ydynt wedi eu profi, rydym yn gobeithio dysgu rhagor am y ffactorau a all wneud rhai pobl yn fwy tebygol o fynd yn sâl nag eraill.
Gobeithiwn y bydd ein hastudiaeth yn gwella dealltwriaeth o salwch meddwl ac yn helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell yn y dyfodol. Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan, byddwn yn gofyn ichi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi a’ch iechyd meddwl er mwyn ein helpu i ateb y cwestiynau ymchwil pwysig hyn. Rydym hefyd am nodi pobl a fyddai’n fodlon i ni gysylltu â nhw i gymryd rhan mewn rhagor o brosiectau ymchwil iechyd meddwl.
Mae angen cynifer o bobl â phosibl arnom i gymryd rhan – lle bynnag yr ydych yn byw a p’un a ydych wedi profi salwch meddwl neu beidio.