Skip to main content

Help gyda’n hymchwil iechyd meddwl mamau

Am yr astudiaeth hon

Mae hi’n bwysig ystyried ffactorau a all gael effaith yn ystod beichiogrwydd ac yn y flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth.

Yn NCMH rydym yn ceisio deall mwy am sut mae profiadau bywyd yn effeithio ar les mamau ac iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn.

Os penderfynwch chi gymryd rhan, gofynnwn ni ichi roi peth gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi, iechyd eich meddwl, eich lles a’ch cyn-brofiadau ynghyd â’ch profiadau ynglŷn â COVID-19. Does dim rhaid ichi gymryd rhan a does dim rhaid ichi ateb unrhyw gwestiynau a allai eich ypsetio.

Rydym hefyd am nodi pobl a fyddai’n fodlon i ni gysylltu â nhw i gymryd rhan mewn rhagor o brosiectau ymchwil iechyd meddwl yn y dyfodol.

Os ydych yn fodlon cymryd rhan yn yr astudiaeth hon, ewch i’n platfform ar-lein i fwrw ati.

Beth y bydd yn rhaid i mi ei wneud?

Mae cymryd rhan yn wirfoddol: eich dewis chi yw cofrestru ai peidio.

Os byddwch yn ymuno â ni, byddwn yn gofyn a fyddech yn fodlon gwneud y canlynol:

  1. Rhoi eich manylion cyswllt i ni (e.e. cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn) a rhywfaint o fanylion personol (e.e. dyddiad geni, grŵp ethnig a statws cyflogaeth).
  2. Ateb rhai cwestiynau am eich lles, beichiogrwydd presennol neu ddiweddar, iechyd meddwl, eich profiadau bywyd, a meddyliau a theimladau sy’n gysylltiedig â COVID-19. Bydd hyn yn cymryd tua 30-40 munud.
  3. Os cewch eich recriwtio yn ystod beichiogrwydd, caniatewch i ni gysylltu â chi am holiaduron dilynol o fewn y pythefnos nesaf, un mis ar ôl eich dyddiad genedigaeth a chwe mis ar ôl y dyddiad hwnnw.
  4. Os cewch ei recriwtio ar ôl geni, gadewch i ni gysylltu â chi am holiaduron dilynol o fewn y pythefnos nesaf ac ymhen chwe mis.
  5. Caniatewch i dîm yr astudiaeth gysylltu â chi bob tua 6-12 mis, i’ch gwahodd i roi rhagor o wybodaeth am eich iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol a’ch ffordd o fyw.
  6. Caniatáu inni gysylltu â chi yn y dyfodol am astudiaethau eraill y gallwch fod eisiau cymryd rhan ynddynt. O wneud hynny, fyddwch chi ddim yn ymrwymo i gymryd rhan mewn unrhyw gyfleon ymchwil yn y dyfodol.
  7. Caniatáu inni ledaenu gwybodaeth ddienw ymhlith ymchwilwyr eraill a chanddynt sêl bendith wyddonol a moesegol ynghylch y cwestiynau yr hoffen nhw ichi eu hateb.

Byddwn yn defnyddio eich atebion i wella ein dealltwriaeth o effaith profiadau bywyd ar les mamau ac iechyd meddwl.

Plîs ewch i wefan NCMH i gael gwybodaeth am sefydliadau y gallwch eu ffonio os oes angen rhywfaint o gymorth arnoch.

Unwaith y byddwch wedi ymuno, gallwch ddewis a ydych am gymryd rhan yn unrhyw un o’r holiaduron, astudiaethau neu ddigwyddiadau y byddwn yn dweud wrthych amdanynt pan fyddwn yn cysylltu â chi.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am fwy o wybodaeth? Rydym wedi rhoi atebion i rai cwestiynau a ofynnir yn aml.

Os ydych chi’n hapus i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, ewch i’n platfform arolwg ar-lein i ddechrau.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd