Skip to main content

Hunan-niweido

Beth yw hunan-niweidio?

Hunan-niweidio yw pan fydd rhywun yn niweidio neu’n anafu ei gorff yn fwriadol. Mae nifer o wahanol ffyrdd y gall pobl niweidio eu hunain yn fwriadol, megis torri neu losgi eu croen, pwnio neu fwrw eu hunain a gwenwyno eu hunain gyda thabledi neu gemegion gwenwynig.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae pobl sy’n hunan-niweidio yn ei wneud i’w helpu i ymdopi â phroblemau emosiynol llethol, a all gael eu hachosi gan:

  • Problemau cymdeithasol – megis bwlio, anawsterau yn y gwaith neu’r ysgol, dod i delerau â’u rhywioldeb, dyled neu ddiweithdra
  • Trawma – megis achosion o gam-drin corfforol neu rywiol, marwolaeth aelod agos o’r teulu neu ffrind, neu golli babi
  • Problemau seicolegol – megis cael meddyliau neu leisiau mynych yn dweud wrthynt am hunan-niweidio, datgysylltu (colli cysylltiad â phwy ydynt a’u hamgylchedd), neu anhwylder personoliaeth ffiniol.

Mae hunan-niweidio yn fwy cyffredin nag y mae llawer o bobl yn sylweddoli, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, lle amcangyfrifir bod 1 o bob 10 yn hunan-niweidio ar ryw adeg. Mae’r ffigur hwn yn debygol o fod llawer yn uwch, gan nad yw llawer o bobl sy’n hunan-niweidio yn gofyn am help.

Gydag amser, lle a chymorth mae pobl yn aml yn dod o hyd i atebion eraill i ymdopi â sut maent yn teimlo, neu caiff y teimladau hyn eu datrys. Mae hunan-niweidio yn ffactor risg ar gyfer hunanladdiad, ac mae gan dros hanner y bobl sy’n lladd eu hunain hanes o hunan-niweidio. Fodd bynnag, mae llawer mwy o bobl yn hunan-niweidio nag sy’n lladd eu hunain, ac mae’n bwysig nodi nad yw llawer o bobl sy’n hunan-niweidio am orffen eu bywydau.

Cael help

Os ydych wedi ystyried niweidio eich hun neu os ydych yn niweidio eich hun, gall deimlo fel nad oes gennych unrhyw un i siarad â nhw – hyd yn oed ffrindiau neu deulu. Ond efallai bod rhywun a all wrando arnoch. Gall helpu i:

  • ddweud wrth ffrind neu berthynas
  • cysylltu â’ch meddyg teulu (neu dîm iechyd meddwl os oes gennych un)
  • mynd i’r Adran Achosion Brys

Os ydych yn hunan-niweidio gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn tîm iechyd meddwl cymunedol lleol, neu dîm wedi’i leoli yn yr ysbyty gyda’r Adran Achosion Brys i gael asesiad pellach. Yn sgîl yr asesiad hwn, bydd eich tîm gofal iechyd yn creu cynllun triniaeth gyda chi i’ch helpu gyda’ch trallod.

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwybod nad yw bob amser yn bosibl rhoi’r gorau iddi yn syth. Efallai y byddwch yn teimlo cywilydd am hunan-niweidio. Gall siarad am eich pryderon, ofnau a thrallod gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddo wneud i chi deimlo’n well. Gall hefyd eich helpu i glirio eich meddwl, i deimlo’n fwy gobeithiol ac i feddwl am atebion posibl.

Triniaethau ar gyfer hunan-niweidio

Mae triniaeth ar gyfer pobl sy’n hunan-niweidio fel arfer yn cynnwys gweld therapydd.

Bydd yn eich helpu i drafod eich meddyliau a’ch teimladau, ac i ddeall sut maent yn effeithio ar eich ymddygiad a’ch lles. Gall eich therapydd hefyd ddysgu dulliau ymdopi i chi er mwyn helpu i atal pyliau pellach o hunan-niweidio.

Os ydych yn teimlo’n isel iawn, neu os oes gennych broblemau iechyd meddwl eraill yna efallai y cewch eich cynghori i gymryd cyffuriau gwrthiselder neu feddyginiaeth arall. Yn aml mae cysylltiad rhwng hunan-niweidio ac iselder.


Cofrestrwch nawr er mwyn gwneud gwahaniaeth
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd