Skip to main content

Anhwylderau bwyta

Beth yw anhwylderau bwyta?

Pan fydd unigolyn yn datblygu agwedd nad yw’n iach tuag at fwyd sy’n ei achosi i newid ei ymddygiad a’i ddeiet yn sylweddol, caiff ei alw’n anhwylder bwyta. Amcangyfrifir bod 1.6m o bobl yn y DU yn cael eu heffeithio gan anhwylderau bwyta. Er ei fod yn fwy cyffredin i ferched ifanc ddatblygu anhwylderau bwyta, gall pobl o bob rhyw, cefndir, grŵp ethnig ac oedran gael eu heffeithio.

Mae nifer o wahanol fathau o anhwylderau bwyta, ond y mwyaf cyffredin yw anhwylder gorfwyta mewn pyliau (BED), bwlimia ac anorecsia.

  • Mae pobl sy’n dioddef anhwylder gorfwyta mewn pyliau (BED) fel arfer yn bwyta prydau y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn eu hystyried yn anarferol o fawr mewn cyfnod byr ac yn teimlo fel nad oes rheolaeth ganddynt wrth wneud hynny. Gelwir hyn yn aml yn orfwyta mewn pyliau.
  • Mae pobl sydd â bwlimia hefyd yn gorfwyta mewn pyliau, ond byddant wedyn yn cael gwared ar y bwyd y maent wedi’i fwyta (a elwir weithiau’n ‘purging’ yn Saesneg) drwy chwydu neu drwy ddefnyddio cathryddion
  • Mae pobl sydd ag anorecsia yn cyfyngu ar faint o fwyd y maent yn ei fwyta’n sylweddol, fel arfer yn bwyta’n llai nag y dylent i aros yn iach. Gallant ganolbwyntio’n fawr ar eu pwysau a siâp eu corff.

Gallant gael effaith sylweddol ar iechyd ac ansawdd bywyd unigolyn. Mae achosion o anhwylderau bwyta yn gymhleth, ond mae ymchwil yn awgrymu bod ein profiadau mewn bywyd, ein cyflwr seicolegol a’n geneteg i gyd yn chwarae rhan

Cael help

Gall effeithiau corfforol anhwylderau bwyta fod yn ddifrifol, felly mae’n bwysig i bobl sydd wedi’u heffeithio ganddynt gael help. Y cam cyntaf tuag at gael help gydag anhwylder bwyta yw siarad â’ch meddyg teulu.

Gall mynd at eich doctor, p’un a ydych yn mynd ar eich rhan eich hun neu am rywun rydych yn gofidio amdanynt, ymddangos yn dasg frawychus. Efallai y byddwch yn teimlo cywilydd neu euogrwydd, neu eich bod yn gwastraffu eu hamser. Peidiwch â gadael i’r pethau hyn eich atal rhag siarad â’ch meddyg teulu a gofyn am help – dyna pam maent yno.

Mae’n eithaf cyffredin i unigolyn sydd ag anhwylder bwyta deimlo nad oes angen help arnynt, gan y gallai’r cyflwr deimlo fel rhan annatod ohonynt fel person. Er enghraifft, os bydd rhywun yn teimlo ei fod angen colli pwysau, gallent deimlo bod gwaredu yn ei helpu i wneud hyn, er gwaethaf yr effaith negyddol y gall gael ar ei les corfforol ac emosiynol.

Bydd eich meddyg yn deall hyn, ac mae’n iawn i chi sôn eich bod yn teimlo fel hyn. Gall eich meddyg ddefnyddio cyfres o gwestiynau er mwyn helpu i asesu a ydych yn dioddef anhwylder bwyta ai peidio.

Mae’n bwysig nodi na fydd ei ddiagnosis yn seiliedig ar y cwestiynau hyn yn unig, ac nid oes rhaid i chi roi ateb cadarnhaol i bob un ohonynt i gael diagnosis o anhwylder bwyta. Meddyliwch am eich atebion i’r cwestiynau hyn cyn i chi ymweld â’ch meddyg teulu – gallai helpu i wneud y sgwrs yn haws:

  • Ydych chi’n chwydu am eich bod yn teimlo’n anghyfforddus o lawn?
  • Ydych chi’n poeni eich bod wedi colli rheolaeth dros faint rydych yn ei fwyta?
  • Ydych chi wedi colli mwy na stôn (6kg) mewn cyfnod o dri mis yn ddiweddar?
  • Ydych chi’n credu eich bod yn dew pan fydd eraill yn dweud eich bod yn rhy denau?
  • A fyddech chi’n dweud bod bwyd yn rheoli eich bywyd?

Bydd yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi siarad â’ch meddyg yn dibynnu ar eich anghenion. Mewn rhai achosion, bydd eich meddyg teulu yn eich trin ei hun, ond os bydd yn credu bod angen cymorth arbenigol arnoch, gallech gael eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl. Efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth anhwylder bwyta arbenigol os bydd eich meddyg teulu o’r farn bod ei angen.

Triniaethau ar gyfer anhwylderau bwyta

Mae profiad pawb o anhwylderau bwyta yn wahanol, felly mae triniaeth yn seiliedig ar anghenion pob unigolyn. I rai pobl, gallai’r cam cyntaf gynnwys dilyn rhaglen hunangymorth, efallai gydag anogaeth a chefnogaeth gan weithiwr iechyd proffesiynol.

Mae gwahanol fathau o driniaethau siarad ar gael hefyd ar gyfer anhwylderau bwyta yn dibynnu ar eich anghenion. Er enghraifft, mae rhai pobl yn cael budd o ymgymryd â therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) neu Therapi Rhyngbersonol (IPT). Mae therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn fath o gwnsela sy’n helpu unigolyn i ddeall ac i newid y ffordd y maent yn meddwl ac yn ymddwyn. Mae cwnsela Therapi Rhyngbersonol yn canolbwyntio ar broblemau â pherthnasau rhyngbersonol.

Gellir ystyried y ddwy ffurf hon o therapi ar gyfer pobl sy’n teimlo eu bod yn barod i newid eu patrwm bwyta. Mae ffurfiau eraill o therapi yn ddefnyddiol mewn amgylchiadau eraill, a chaiff yr opsiynau hyn eu hystyried gyda chi. Gall triniaeth hefyd gynnwys monitro eich iechyd corfforol yn ofalus.

Gellir rhagnodi meddyginiaeth i bobl sydd â bwlimia neu anhwylder gorfwyta mewn pyliau a’r rheini sydd â phroblemau gyda chyflyrau eraill megis iselder neu gorbryder, ond fel arfer, ni ellir gwneud hynny gydag anorecsia.

Gwefannau defnyddiol

Cofrestrwch nawr er mwyn gwneud gwahaniaeth
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd