Skip to main content

Iselder

Beth yw iselder?

Mae teimlo’n drist neu’n ddigalon weithiau yn normal. Ond os ydych yn teimlo’n isel am wythnosau ar y tro, os yw’r teimlad yn dychwelyd yn rheolaidd, neu os yw’n effeithio ar eich bywyd, gall fod yn arwydd o iselder.

Nid yw iselder yr un peth a bod yn drist, ac nid yw’n arwydd o wendid neu nam ar eich personoliaeth. Mae’n salwch, a gall gael effaith ddifrifol ar fywyd person a bywydau’r rhai o’i gwmpas. Mewn achosion difrifol, gall wneud bywyd bob dydd yn anodd dros ben, a gall hyd yn oed arwain at hunanladdiad.

Gall effeithio ar unrhyw un, ac mae’n un o’r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin. Mae’n effeithio ar tua un o bob deg ohonom ar ryw adeg.

Mae gwaith ymchwil wedi dangos o bosibl mai newidiadau yn systemau’r ymennydd neu yng nghydbwysedd cemegol yr ymennydd sydd wrth wraidd iselder. Gall digwyddiadau mewn bywyd sy’n achosi straen achosi’r newidiadau hyn, fel profedigaeth, tor-perthynas neu golli eich swydd. Ond i rai pobl, mae’r salwch yn digwydd heb unrhyw reswm amlwg.

Mae pobl sydd â hanes o iselder yn y teulu yn wynebu mwy o risg o ddatblygu’r salwch, ond ni fydd pawb yn y sefyllfa hon yn datblygu iselder.Mae rhai pobl yn dueddol o ddioddef o iselder yn ystod cyfnodau penodol o’u bywydau. Er enghraifft, mae rhai menywod yn dueddol o brofi cyfnod o iselder sy’n gysylltiedig â rhoi genedigaeth. Gall symptomau iselder hefyd fod yn rhan o Anhwylder Deubegynol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl ag iselder yn gwella gyda’r driniaeth a’r cymorth cywir, ond gall fynd a dod.

Mae iselder yn effeithio ar bawb yn wahanol, ond ceir rhai symptomau cyffredin:

  • Teimlo’n drist neu’n isel am gyfnodau hir
  • Teimlo’n ddiobaith neu’n ddiymadferth n Teimladau o euogrwydd
  • Bod yn bryderus neu’n poeni llawer
  • Tymer flin
  • Teimlo’n flinedig drwy’r amser a bod â dim egni
  • Dim cymhelliant neu’n methu â chanolbwyntio
  • Colli diddordeb mewn pethau rydych yn eu mwynhau fel arfer n Colli diddordeb mewn rhyw
  • Newid yn eich archwaeth – bwyta gormod neu ddim digon
  • Cael trafferth cysgu, neu angen cysgu mwy nag arfer
  • Symud neu siarad yn arafach na’r arfer n Meddwl am hunanladdiad neu anafu eich hun
  • Mewn achosion difrifol, efallai bydd person ag iselder yn profi symptomau seicosis (e.e. rhithwelediadau, fel clywed lleisiau).

Mae’n bwysig nodi efallai na fydd person ag iselder yn profi’r holl symptomau hyn – er enghraifft, gall rhywun ddioddef o iselder heb deimlo’n arbennig o drist.

Dod o hyd i help

Os ydych chi neu rywun sy’n agos atoch wedi bod mewn hwyliau isel am gyfnod o bythefnos neu fwy, siaradwch â meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Ar y dechrau, efallai y bydd yn awgrymu rhywfaint o newidiadau i’ch ffordd o fyw ac yn monitro eich hwyliau am gyfnod byr rhag ofn y bydd yn gwella ar ei ben ei hun. Os nad yw hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i chi drafod dewisiadau eraill o ran triniaeth.

Triniaethau ar gyfer iselder

Mae pobl â ffurf ysgafn o iselder weithiau’n gwella heb unrhyw driniaeth, ond mewn achosion mwy difrifol efallai y bydd angen llawer o help arnynt. Newidiadau i’ch ffordd o fyw yw’r dull cyntaf o driniaeth i roi cynnig arno fel arfer. Gall mwy o ymarfer corff, bwyta’n iach a chysgu’n dda oll gael effaith fawr ar ein hwyliau

Gall gwefannau hunangymorth fod yn ddefnyddiol hefyd fel LivingLifeToTheFull (llttf.com) a MoodGym (moodgym.anu.edu.au). Mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn argymell y safleoedd hyn fel ffynhonnell dda o wybodaeth a chyngor ymarferol ar ymdopi ag iselder.

Therapïau siarad fel gwasanaethau cynghori a therapi ymddygiad gwybyddol yw’r cam nesaf. Gall therapi grwp, therapi cyplau neu gwnsela ar ôl profedigaeth hefyd helpu yn dibynnu ar y ffactorau sylfaenol sy’n achosi iselder person. Mae therapi ymddygiad gwybyddol yn driniaeth sy’n helpu i newid y ffordd mae person yn meddwl ac yn ymddwyn. Mae’n nodi ffyrdd o feddwl di-fudd a gall helpu i dorri’r cylchred o feddyliau negyddol.

Mewn achosion cymedrol i ddifrifol, efallai bydd angen meddyginiaeth gwrth-iselder. Mae’r meddyginiaethau hyn yn gweithio drwy gydbwyso cemegau yn yr ymennydd sy’n rheoli ein hwyliau. Mae llawer o bobl yn gweld eu bod yn helpu, ond gall fod anfanteision. Mae rhai pobl yn profi sgîl-effeithiau amhleserus, a gallant gymryd nifer o wythnosau cyn dechrau gweithio.

Cyfuniad o newidiadau i’ch ffordd o fyw, therapïau siarad a meddyginiaeth yn aml yw’r ffordd fwyaf effeithiol o drin iselder


Cofrestrwch nawr er mwyn gwneud gwahaniaeth
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd