Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Maggy

Mae gan Maggy un plentyn ac mae’n dwlu ar anifeiliaid ac yn gweithio yn y diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil iechyd meddwl. Dyma ei stori:

Maggy ydw i ac rwy’n 46 oed. Rwy’n Ddylunydd Graffeg llawrydd sy’n gweithio gartref yn bennaf, gan dreulio un diwrnod yr wythnos yn gosod hysbysebion ar gyfer Big Issue Cymru.

Rwy’n byw gyda fy mhartner ers 12 mlynedd ac mae gennym fab a fydd yn naw oed yr wythnos nesaf, un ci dwl a chath fwy call: anifeiliaid achub yw’r ddau ohonynt.

Bu farw fy nhad o ganser pan oeddwn yn 12 oed a symudais o’m cartref ar Ynys Manaw i Swydd Efrog.

Nid oeddwn yn sylweddoli bryd hynny fod fy mam nid yn unig yn mynd drwy’r cyfnod ar ôl y menopos ond hefyd yn dioddef o’r hyn y byddwn bellach yn ei adnabod fel arwyddion nodweddiadol iselder manig. Cefais innau broblemau gydag iselder hefyd, ac rwyf bellach yn sylweddoli fy mod wedi dioddef o anhwylder bwyta.

Chwalodd fy nerfau am y tro cyntaf pan oeddwn tua 16 oed, a chymerais wrth-iselyddion am y tro cyntaf pan oeddwn yn 24 oed. Rwyf wedi bod yn cymryd amrywiaeth o feddyginiaeth ers hynny.

Yn 2003, cefais ddiagnosis dros dro o anhwylder deubegynol, ond am fy mod yn ceisio beichiogi a hefyd yn gweithio llawn amser, nid oeddwn yn dymuno cael ‘diagnosis swyddogol’ gan seiciatrydd ar y pryd.

Ar ôl geni fy mab cefais ddiagnosis o iselder ôl-enedigol, ac yna wrth i’r symptomau waethygu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, chwalodd fy nerfau yn ddifrifol unwaith eto. Cefais fy atgyfeirio at seiciatrydd i gael diagnosis ‘swyddogol’.

Ers hynny, rwyf wedi cael diagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol ac rwy’n ceisio cael triniaeth briodol ar hyn o bryd.

Rwy’n awyddus i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil iechyd meddwl, nid yn unig oherwydd fy mhrofiadau fy hun, ond hefyd am fod fy nith, fy mam a’m brawd i gyd wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol a gyfrannodd at eu marwolaethau cynamserol.

Rwy’n benderfynol o helpu datblygiadau o ran gofal a thriniaeth iechyd meddwl, gwella gallu pobl i hunanreoleiddio a chael gafael ar gymorth meddygol, a dysgu mwy am gysylltiadau genetig posibl. Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith ymchwil yn cyfrannu at well diagnosis a thriniaethau sydd wedi’u targedu’n well ar gyfer salwch meddwl yn y dyfodol.

Roedd cymryd rhan yn hawdd – anfonais e-bost at NCMH a siaradais ag aelod o’r tîm am fy hanes fy hun a hanes fy nheulu gydag iechyd meddwl. Wedyn, trefnwyd bod rhywun yn ymweld â mi yn fy nghartref. Roedd hynny’n helpu i mi deimlo’n gyfforddus.

Roedd y tîm cyfan yn hyfryd, yn gwbl empathig, ac roedd yn amlwg bod fy nghyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Roeddwn yn teimlo bod gallu cymryd rhan yn fy ngrymuso – efallai am fy mod yn benderfynol o beidio â theimlo fy mod yn cael fy stigmateiddio oherwydd fy nghyflwr iechyd meddwl.

Yn ddi-os, byddwn yn argymell i bobl eraill gymryd rhan – mae datblygiadau niwrolegol mawr wedi bod dros yr ugain mlynedd diwethaf, ac os ydym am i’r cynnydd barhau ac i’r gofal sydd gennym wella, mae angen i ni gydweithio ag ymchwilwyr a darparwyr gwasanaethau.

Rwy’n gweithio ar gylchgrawn newydd ar hyn o bryd a fydd yn canolbwyntio ar rymuso unrhyw un â phroblemau iechyd meddwl drwy ddarparu adnoddau creadigol a mynegiant artistig fel ffordd o helpu ymwybyddiaeth a lles.

Gwneir y gwaith hwn ar y cyd â’r sefydliadau iechyd meddwl Making Minds (a helpais i’w sefydlu y llynedd), a New Horizons. Caiff y rhifyn cyntaf ei gyhoeddi ym mis Hydref, ac os hoffai unrhyw un gymryd rhan, gellir cysylltu â mi yn mag@mecreative.net.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd