Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Lydia
Mae Lydia yn byw yng Nghaerdydd ac yn rhedeg ei busnes ei hun yn gwneud gemwaith. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:
Lydia ydw i ac rwy’n rhedeg fy musnes fy hun yn dylunio ac yn creu gemwaith o’m stiwdio yng Nghaerdydd. Rwy’n byw gyda fy ngŵr a’m plant ac mae pob un ohonom yn dwlu ar anifeiliaid; gallwch bob amser gael cwtsh yn ein tŷ ni, gan ein ci, Sparky, neu un o’n cathod neu fadfallod.
Rwy’n mwynhau ffilm arswyd neu ffuglen wyddonol dda, rwy’n ddarllenydd brwd ac wrth fy modd yn chwarae’r Xbox. Rwyf hefyd yn mwynhau crwydro gwarchodfa natur camlas Sir Forgannwg a Fferm Fforest – rwyf wrth fy modd â’r ffordd y mae’n newid o dymor i dymor.
Mae gan fy ngŵr, Lann, anhwylder deubegynol, a thros y pum mlynedd diwethaf mae’r broses o geisio cymorth, cael diagnosis a dod o hyd i help a thriniaeth wedi bod yn frwydr aruthrol iddo ef ac i ni fel teulu. Dechreuais ymwneud ag NCMH drwy gynllun PlusOne ar ôl i Lann gymryd rhan yn ei gwaith ymchwil. Roeddwn yn awyddus i wneud rhywbeth ymarferol i helpu ac roedd yn broses mor syml! Cefais gyfweliad gan un o’r ymchwilwyr a gymerodd funudau yn llythrennol, ac yna rhoddais sampl fach o waed.
Mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi cael problemau iechyd meddwl neu sy’n dioddef o broblemau o’r fath ar hyn o bryd. Fel gydag unrhyw salwch, gorau po fwyaf rydym yn ei wybod amdano o ran ein gallu i’w drin. Mae’n hollbwysig bod gwaith ymchwil yn cael ei gefnogi er mwyn rhoi dealltwriaeth well i ni. Ers i mi wirfoddoli gydag NCMH, rwyf wedi bod yn annog pobl eraill i helpu hefyd – rwyf wedi recriwtio 15 o bobl hyd yn hyn!
Gall problemau iechyd meddwl achosi newidiadau dinistriol i fywydau pobl, ac nid ydynt yn cael eu trafod ddigon o hyd. Bydd gwaith ymchwil NCMH yn arwain at fwy o wybodaeth, gan arwain at ddiagnosis, dealltwriaeth a thriniaethau mwy llwyddiannus. Gall salwch meddwl, fel unrhyw salwch arall, effeithio ar unrhyw un unrhyw bryd. Mae’r broses o helpu mor hawdd, a gallai wneud gwahaniaeth hollbwysig i rywun agos atoch yn y dyfodol.