Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Julie

Mae Julie’n gwnselydd cymwysedig ac yn wirfoddolwr i Bipolar UK. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori: Helo, fy enw i yw Julie. Rwy’n 46 oed, rwy’n weithiwr cymdeithasol a chwnselydd cymwysedig ac mae gen i fab bendigedig sy’n 17 oed. Yr agosaf rwyf wedi dod at enwogrwydd yw cael lifft gan Al Murray un tro!

Rwy’n cymryd rhan weithgar yn y gymuned iechyd meddwl ac rwy’n gwneud llawer o waith gwirfoddol gyda Bipolar UK. Rwy’n gwirfoddoli fel mentor i bobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol. Rwy’n un o’r ddau ddefnyddiwr gwasanaethau sy’n aelod o’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer cynllun Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Rwy’n aelod o Banel Arweinyddiaeth Arbenigol Hafal a phwyllgor rheoli therapïau Seicolegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.Rwyf hefyd yn hyrwyddwr Amser i Newid Cymru!

Yn ystod fy ugeiniau, treuliais flwyddyn mewn ysgol gelf ac yna dilynais gwrs gradd mewn Astudiaethau Crefyddol. Tua’r adeg hon y dechreuais fynd yn sâl am y tro cyntaf, a chefais ddiagnosis o iselder a gorbryder. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl genedigaeth fy mab, cefais ddiagnosis o anhwylder deubegynol. Tua thair blynedd yn ôl dywedodd fy seiciatrydd wrthyf am BEPC, sef rhaglen seicoaddysg ar gyfer pobl ag anhwylder deubegynol. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn y garfan gyntaf un, a dyma ble y dysgais am NCMH a’i hymchwil.

Rwyf wedi cael rhai profiadau gwael iawn gyda fy iechyd meddwl ac mae cymaint nad ydym yn ei ddeall o hyd am yr hyn sy’n achosi’r problemau hyn, felly roeddwn yn awyddus iawn i helpu gyda’r ymchwil mewn unrhyw ffordd bosibl.

Roedd yn broses hawdd iawn a dim ond tua hanner awr gymerodd hi. Mae’r broses yn cynnwys ymchwilydd yn ymweld â’ch cartref, yn gofyn ychydig o gwestiynau ac yn cymryd sampl gwaed. Gallwch siarad am unrhyw bryderon sydd gennych ymlaen llaw, a gallwch dynnu’n ôl ar unrhyw adeg.

Roedd yr ymchwilydd a ddaeth i’m gweld yn hyfryd ac roeddwn wir yn teimlo’n gyfforddus. Yn anffodus, nid oedd modd cymryd sampl gwaed, felly gadawodd yr ymchwilydd offer gyda fi a daeth fy Nyrs Seiciatrig Gymunedol i’m gweld yn ddiweddarach yr wythnos honno a chymryd y sampl. Ar ôl cymryd rhan fy hun, anogais fy mam i gymryd rhan hefyd fel PlusOne. Rwy’n gobeithio ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan – gorau po fwyaf!

Drwy wneud cyfraniad bach, gallech wneud gwahaniaeth enfawr o ran helpu ymchwilwyr i ddeall achosion salwch meddwl yn well a datblygu triniaethau mwy effeithiol.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd