Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Jayne
Mae Jayne yn olygydd gwe ac yn newyddiadurwraig sydd wrth ei bodd yn teithio ac yn garddio. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:
Jayne ydw i, rwy’n rhannu fy amser rhwng Caerdydd a Cheltenham ac rwy’n olygydd gwe ac yn newyddiadurwraig; awdures ar log, yn y bôn. Rwyf wrth fy modd â ffotograffiaeth, cyfryngau cymdeithasol, teithio a garddio, ac rwyf wedi cael fy lladd gan estronwyr Dr Who – ddwywaith!
Dechreuais ddioddef salwch meddwl yn ifanc iawn. Roeddwn yn fwlimig am gyfnodau o tua 8 oed nes oeddwn yn 19 oed ac, ar ôl ambell flwyddyn ansefydlog yn y brifysgol, cefais ddiagnosis o anhwylder deubegynol o’r diwedd.
Dywedodd fy ffrind, sy’n niwrowyddonydd, wrthyf am NCMH a dywedodd ei bod yn chwilio am bobl fel fi i gymryd rhan yn ei hastudiaeth. Roeddwn yn awyddus i gael gwybod rhagor, ac es i ar Google i chwilio am fwy o wybodaeth am y prosiect. Gwnaeth gwaith y Ganolfan argraff fawr arnaf, a phenderfynais gymryd rhan.
Hoffwn weld gwell dealltwriaeth o gyflyrau fel anhwylder deubegynol, ac roedd gwirfoddoli i wneud gwaith ymchwil yn ymddangos fel ffordd wych o wneud fy rhan. Roedd y broses yn hawdd iawn – cefais gyfarfod ag ymchwilydd hyfryd ac aethom drwy arolwg syml. Roedd yn berson hynaws iawn ac roedd yn bleser siarad â hi, a dim ond tua ugain munud gymerodd yr holl broses.
Yr unig ran roeddwn ychydig yn betrusgar amdani oedd rhoi sampl gwaed – nid wyf yn hoff iawn o nodwyddau! Ond roedd y broses yn gwbl ddi-boen, a gwnaeth yr ymchwilydd i mi deimlo’n gwbl gyfforddus.
Yn sicr, byddwn yn argymell i bobl eraill gymryd rhan – mae’n brofiad gwych ac mae gwybod eich bod yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o salwch meddwl yn deimlad bendigedig. Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, mwyaf y gall gwyddonwyr ei ddysgu.
Gobeithio y bydd yr ymchwil yn arwain at well dealltwriaeth o’r hyn sy’n sbarduno problemau iechyd meddwl, triniaethau gwell a diagnosis cyflymach o gyflyrau fel anhwylder deubegynol.