Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: David
Mae David o Gwmbrân yn dad, yn fyfyriwr aeddfed ac yn artist. Mae hefyd yn un o hyrwyddwyr ymchwil NCMH. Dyma ei stori:
Rwyf wedi byw yn yr un cyfeiriad yng Nghwmbrân ers 55 o flynyddoedd bellach – ar hyd fy oes. Symudodd fy rhieni yma o’r Porth yn y Rhondda yn 1956.
Rwy’n dad gweddw ar ôl i’m gwraig farw o ganser y fron wyth mlynedd yn ôl. Mae fy unig blentyn, Emily, bellach yn 16 oed ac yn astudio ar gyfer Safon Uwch. Gall fod yn anodd magu plentyn ar eich pen eich hun, ond rydym wedi cael hwyl arni hyd yn hyn!
Mae Emily yn astudio Bioleg, Cemeg, Daeareg a Daearyddiaeth ac mae’n gobeithio mynd i’r Brifysgol ymhen dwy flynedd. Rwy’n hynod o falch ohoni, ac rwy’n siŵr y bydd yn llwyddiannus iawn.
Rwyf wrth fy modd yn arlunio ac yn paentio, ac ers i mi golli fy ngwraig rwyf wedi astudio ym Mhrifysgol Casnewydd fel myfyriwr aeddfed ac wedi ennill rhagoriaeth mewn Astudiaethau Sylfaen mewn Celf, Cyfryngau a Dylunio, ac rwy’n ystyried mynd yn ôl i barhau â’m hastudiaethau ar ôl i’r ferch gwblhau ei rhai hi.
Mae gen i anhwylder deubegynol, ac mae’r hwyliau oriog yn gallu bod yn wanychol iawn. Rwy’n cymryd meddyginiaeth bob bore ac mae’n rhaid i mi gael pigiad gan fy Nyrs Seiciatrig Gymunedol bob tair wythnos.
Pan glywais am NCMH ar y radio, roeddwn am wneud fy rhan er mwyn helpu cenedlaethau’r dyfodol i gael gwell diagnosis, triniaeth ac ôl-ofal.
Ffoniais y rhif ffôn ar hysbyseb ar gyfer y rhaglen, a siaradais â chysylltydd cyfeillgar a bywiog iawn a drefnodd ddiwrnod ac amser addas i ymweld â mi gartref er mwyn dechrau ar y broses.