Stori Cory
Mae gan Cory radd mewn seicoleg, mae wrth ei bodd â phledu paent ac mae’n hyfforddi i fod yn gwnselydd. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:
Cory ydw i, rwy’n byw yng Nghwm Rhymni ac rwy’n mwynhau cadw’n heini; boed hynny drwy seiclo, pledu paent, chwarae tenis neu fynd i’r gampfa. Rwyf hefyd yn hoffi treulio amser gyda fy nheulu ac yn mwynhau’r pethau bach mewn bywyd.
Astudiais seicoleg yn y brifysgol ac rwy’n hyfforddi i fod yn gwnselydd ar hyn o bryd. Mae’n gwrs trwm ond rwyf wir yn ei fwynhau ac rwy’n teimlo fy mod wedi dod o hyd i alwedigaeth rwy’n angerddol amdani o’r diwedd!
Bûm yn brwydro gorbryder drwy gydol fy arddegau a chefais bwl o iselder. Roedd yn gyfnod anodd yn fy mywyd ond rwy’n teimlo fy mod yn rheoli fy iechyd meddwl yn dda o’r diwedd. Rwyf wedi canfod bod ymwybyddiaeth ofalgar yn ddefnyddiol iawn ac rwy’n gwneud cymaint o ymarfer corff â phosibl (nid wyf yn athletwraig o bell ffordd!) – gall mynd am dro hir, hyd yn oed, fod o help mawr.
Mae iechyd meddwl, yn enwedig iselder, wedi bod yn bwnc sy’n agos at fy nghalon erioed, ac rwyf wedi treulio amser yn gwirfoddoli gyda Mind. Pan glywais am NCMH am y tro cyntaf, roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am ei gwaith.
Gwirfoddolais i gymryd rhan, ond roeddwn yn poeni am gael fy marnu oherwydd fy mhroblemau. Mae hyn wedi digwydd i mi yn y gorffennol, sy’n golygu fy mod yn gyndyn o siarad am fy nhrafferthion, hyd yn oed gyda phobl rwy’n agos iawn atynt.
Ar ôl cwrdd â’r ymchwilydd, nid oeddwn yn teimlo ei bod yn fy marnu o gwbl – mewn gwirionedd, roeddwn yn teimlo ei bod yn fy nerbyn a’m bod yn berson. Roedd yn hawdd iawn siarad â hi ac roedd yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus yn siarad am fy mhrofiadau. Yr unig beth roedd yn rhaid i mi ei wneud oedd ateb ychydig o gwestiynau a rhoi sampl fach o boer. A dyna ni. Di-boen a hawdd iawn.
Yn sicr, byddwn yn annog pobl eraill i gymryd rhan hefyd – mae ymchwil yn allweddol er mwyn dysgu mwy am gyflyrau iechyd meddwl a sut i’w trin. Rwyf hefyd yn credu bod gwell dealltwriaeth yn bwysig iawn o ran mynd i’r afael â stigma – rhywbeth sydd, yn anffodus, yn dal yn broblem fawr i lawer o bobl â phroblemau iechyd meddwl.
Hefyd, mae’n deimlad gwych gwybod eich bod wedi gwneud rhywbeth a allai wneud gwahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol.