Mae Ceri, o Ganolbarth Cymru, yn fam o ddau ac yn ffotograffydd brwd sy’n cadw rhai anifail anwes. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r gair am ein hymchwil. Dyma’i stori:
Ceri ydw i. Rwy’n briod, mae gen i ddau o blant ac rwy’n byw ym Mhowys. Roeddwn yn arfer gweithio fel dylunydd graffeg, ond rwyf bellach wedi ymddeol am resymau meddygol, sef straen difrifol wedi trawma. Ni allaf deithio mwyach, felly rwy’n hoff o dynnu lluniau o’m gardd er mwyn helpu i anghofio am bethau sy’n fy mhoeni. Rwyf hefyd yn cadw tarantwlaod – maent yn codi ofn ar rai pobl ond maent yn anifeiliaid anwes gwych!
Newidiodd fy mywyd yn llwyr ar ôl i mi gael damwain a arweiniodd at anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Y broblem gyda PTSD yw ei fod yn anweladwy. Mae llawer o bobl yn meddwl, os oes rhywun yn edrych yn iawn, mai rhaid eu bod nhw’n iawn. Ond gall ôl-fflachiadau a symptomau eraill lorio rhywun yn llwyr. Sut y gallwch yrru neu goginio, er enghraifft, os ydych yn meddwl eich bod yn eich ôl mewn damwain drawmatig?
Mae pobl yn ceisio helpu drwy ddweud ‘dyweda wrtha i os yw’n digwydd’ ond nid ydynt bob amser yn amgyffred y ffaith nad ydych bob amser yn sylweddoli bod unrhyw un yna gyda chi pan fyddwch yn cael ôl-fflachiad.
Clywais am NCMH ar-lein, ac roeddwn am wirfoddoli oherwydd rwy’n credu bod angen i ni wybod mwy am PTSD. Drwy ddysgu mwy, gallwn ddelio â’r anhwylder yn well, addysgu’r cyhoedd a darganfod ffyrdd o helpu pobl eraill.
Roeddwn braidd yn bryderus cyn i mi gymryd rhan yn yr ymchwil oherwydd ni allaf deithio, ond daeth ymchwilydd cyfeillgar iawn allan i’m gweld yn fy nghartref. Cefais gyfweliad a rhoddais sampl fach o waed – cawsom ychydig o anhawster gyda hyn a bu’n rhaid iddo ddychwelyd gyda nodwydd lai, ond roedd y broses i gyd yn gyflym iawn, felly nid oedd hyn yn broblem.
Yn sicr, rwy’n credu y dylai mwy o bobl gymryd rhan – mae angen i ni wybod mwy am gyflyrau iechyd meddwl er mwyn i ni allu helpu pobl i wella a hefyd gael gwared ar y stigma sy’n dal pobl yn ôl.