Skip to main content

Stori Anders

Mae Anders yn dad i ddau o blant ac mae’n gweithio yn y diwydiant niwclear. Roedd yn awyddus i helpu i godi ymwybyddiaeth o’n hymchwil ar ôl bod yn rhan o astudiaethau blaenorol ar ôl cael diagnosis o iselder ac anhwylder deubegynol pan oedd yn y brifysgol. Dyma ei stori:

Anders ydw i, rwy’n 47 oed ar rwy’n byw yn Swydd Gaer. Rwyf wedi bod yn briod ag Elizabeth, sy’n osteopath, ers 2002, ac rwy’n dad ymroddedig i efeilliaid sy’n 12 mlwydd oed, Annalise a William. Mae gennym Pepper hefyd, sbaniel sy’n 13 blwydd oed, sy’n rhan bwysig iawn o’n teulu.

Pan nad wyf yn gwneud pethau gyda fy mhlant, rwy’n mynychu dosbarthiadau ffitrwydd yn ein campfa leol, yn parhau i wneud yr holl dasgau sy’n aros i gael eu cwblhau o gwmpas y tŷ a’r ardd, yn mynd i’r dafarn leol am ddiodydd o bryd i’w gilydd, a chwrdd â ffrindiau a theulu. Rwy’n eithaf anturus ac rwy’n mwynhau sgïo, beicio mynydd a dringo, ymhlith eraill, ond nid yw’r rhain yn ddigwyddiadau rheolaidd.

Des i’n ymwybodol o broblemau’n ymwneud ag iselder yn fy ugeiniau cynnar pan oeddwn yn y brifysgol. Ces i rai episodau isel difrifol yn gynnar yn fy ngyrfa, a phan oeddwn tua 25 oed, ces i fy mhrofiad deubegynol difrifol cyntaf. Mae’r 20 mlynedd diwethaf wedi bod yn daith o brofiadau da a drwg, o ddysgu am fy hun a rhoi rhwydi diogelwch yn eu lle sy’n fy ngalluogi i adfer fy iechyd da cyn gynted â phosibl pan fydd gennyf broblemau.

Roedd deall a derbyn pwy ydw i a’r angen i gymryd meddyginiaeth yn rheolaidd yn her arbennig o anodd yn fy nhridegau ond llwyddais i ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny.

Ym mis Ionawr 2017 cefais ddiagnosis o Apnoea Cwsg a chefais beiriant CPAP i wella ansawdd fy nghwsg. Mae’r effaith gadarnhaol ar fy iechyd corfforol a meddyliol wedi bod yn anhygoel. Yng nghanol mis Mawrth cefais wybod bod ansawdd fy nghwsg wedi gwella 50% a gallwn gyflawni’r 100% llawn erbyn dechrau mis Mai. Y diagnosis hwn wnaeth fy ysbrydoli i gofrestru i fod yn rhan o ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng colli cwsg ac iechyd meddwl.

Pan ges i ddiagnosis o iselder yn gyntaf, ces i’r cyfle i ymuno â thîm ymchwil yn cynnwys nifer o brifysgolion gan gynnwys Caerdydd. Rwyf wedi aros mewn cysylltiad â’r grŵp hwn a thrwy’r cylchlythyr des i’n ymwybodol o NCMH a’r gwaith da maent yn ei wneud.

Rwyf wedi cyrraedd cyfnod yn fy mywyd lle rwyf am roi rhywbeth yn ôl am yr holl gymorth rwyf wedi’i gael, felly dwi wedi cofrestru i gymryd rhan yn yr astudiaeth.

Roedd yr ymchwilydd y siaradais â hi yn amyneddgar, yn anffurfiol, yn agored ac yn onest. Roeddwn yn teimlo’n hollol gyfforddus wrth siarad â hi. Roedd yr holl broses yn hawdd iawn, ac ar adegau yn ddoniol ac yn ddifyr!

Rwy’n gobeithio, drwy’r ymchwil hwn, y gellir cyflwyno triniaethau amgen sy’n dibynnu llai ar feddyginiaeth a mwy ar allu pobl i wneud pethau ac ymddwyn yn wahanol. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwil yn mynd ymlaen i ystyried faint o effaith y mae colli cwsg yn ei chael ar bobl sy’n dioddef o iselder neu salwch yn ymwneud ag anhwylder deubegynol.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd