Skip to main content

Clinig Asesu Clinigol ar gyfer Iselder Gwrthiannol (CARE).

Mae Clinig CARE Caerdydd yn glinig newydd i bobl sy’n byw gydag iselder sy’n anodd ei drin. Mae’r clinig yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro

Diffiniad iselder anodd ei drin yw iselder nad yw wedi gwella er bod y claf wedi rhoi cynnig ar sawl triniaeth flaenorol.

Bydd y clinig yn cynnig asesiad manwl wyneb yn wyneb gydag arbenigwyr ym maes iselder. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall symptomau eich iselder yn well ac argymell y driniaeth/triniaethau gorau

Un o brif nodau’r clinig yw cynnig cyfle i bobl gael mynediad at driniaethau ffarmacolegol neu seicolegol newydd drwy gymryd rhan mewn treialon clinigol.

A oes clinigau arbenigol tebyg eraill?

Oes, mae clinig CARE Caerdydd yn un o 15 o glinigau ymchwil anhwylderau hwyliau arbenigol newydd ledled y DU a sefydlwyd fel rhan o’r Genhadaeth Iechyd Meddwl. Dyma’r unig glinig o’i fath yng Nghymru ac mae’n cael ei ariannu drwy grant gan Swyddfa Gwyddorau Bywyd y DU.

Nod y rhwydwaith hwn yw gwella mynediad at asesiadau arbenigol i bobl sy’n byw gydag iselder sy’n anodd ei drin a chynnig y cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn treialon clinigol sy’n ymwneud ag ystod eang o driniaethau newydd.

Sut mae cymryd rhan?

  • Ar hyn o bryd, dim ond atgyfeiriadau gan feddygon teulu rydyn ni’n eu derbyn, er ein bod yn gobeithio ehangu hyn i bobl allu atgyfeirio eu hunain yn y dyfodol.
  • Gall meddygon teulu eich atgyfeirio at y clinig hwn os nad ydych chi wedi ymateb yn ddigonol i ddwy driniaeth neu fwy ar gyfer iselder (gan fod yn rhaid i o leiaf un fod yn feddyginiaeth gwrth-iselder)
  • Oherwydd natur y clinig hwn, ni allwn ni gynnig cyngor na chymorth ar alwad.
  • Felly, nid ydyn ni’n gallu gweld pobl sy’n teimlo’n anniogel neu sydd wedi profi meddyliau hunanladdol difrifol yn ddiweddar – gallai atgyfeiriad at y tîm argyfwng neu wasanaethau iechyd meddwl eilaidd eraill fod yn fwy priodol.

At sylw Meddygon Teulu yn unig

I atgyfeirio rhywun, cysylltwch â: CUPSmooddisordersclinic@caerdydd.ac.uk

 

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd