Skip to main content

Astudiaeth iechyd meddwl myfyrwyr

Help gydag ymchwil

Helpwch ni i ddeall beth sy’n cefnogi lles myfyrwyr mewn gwirionedd a beth sydd angen ei newid drwy gwblhau arolwg iechyd meddwl a lles myfyrwyr Nurture-U.

Mae’n agored i bob myfyriwr – ewch i’n platfform ar-lein i ddechrau.

Ynglŷn â’r astudiaeth

Mae Prosiect Ymchwil Nurture-U yn astudiaeth ledled y DU sy’n gweithio i wneud bywyd prifysgol yn well i fyfyrwyr ym mhobman. Fe’i hariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Mae’n dod â chwe phrifysgol ynghyd: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Southampton, a Phrifysgol Newcastle, ac mae’n gweithio’n agos gyda Chanolfan U-Flourish ym Mhrifysgol y Frenhines, Canada, a ddechreuodd ei chenhadaeth i wella lles myfyrwyr yn ôl yn 2018.

Dr Liz Forty o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl sy’n arwain y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd.

Hyd yn hyn, mae mwy na 12,000 o fyfyrwyr wedi rhannu eu profiadau, gan gynnwys tua 1,500 o Brifysgol Caerdydd, gan ein helpu i ddysgu:

  • Sut mae myfyrwyr yn teimlo
  • Beth sy’n achosi straen
  • Beth sy’n eu helpu i aros yn iach
  • A sut mae’r profiadau hyn yn amrywio o berson i berson

Mae eich adborth yn helpu i lunio gwasanaethau, adnoddau a systemau cymorth gwell i bob myfyriwr. Darllenwch ein canfyddiadau diweddar.

Cymerwch ran heddiw a gwnewch wahaniaeth

FAQs

Ydych chi’n chwilio am fwy o wybodaeth yn gyntaf? Rydym wedi llunio’r atebion i rai cwestiynau cyffredin.

Cymryd rhan nawr

Gellir cwblhau ein harolwg byr ar-lein a chymeraf gyn lleied â 15 munud. Ewch i’r arolwg i ddechrau arni.

Cysylltu â ni

Gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw eich pwynt cyswllt cyntaf os oes angen unrhyw gymorth arnoch tra byddwch yn astudio gyda ni. Maent wedi’u lleoli yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, canolfan un stop ar gyfer eich holl anghenion myfyrwyr.

I gysylltu trwy’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr, gallwch:

  • ewch i dîm Cyswllt Myfyrwyr yn Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
  • defnyddio ein Porth Cyswllt Myfyrwyr
  • gofynnwch i’n chatbot eich cwestiynau 24/7, pan fyddwch wedi mewngofnodi i’r fewnrwyd a gwelwch y botwm sgwrsio glas a gwyn ar gornel dde waelod eich sgrin
  • ffoniwch ni ar +44 (0)29 2251 8888.
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd