Skip to main content

Stori Steve

Cafodd Steve ddiagnosis o Anhwylder Deubegynol II yn 2015, ac mae wedi defnyddio technegau hunanreoli i wella ei iechyd meddwl. Mae ganddo wefan sy’n rhannu syniadau ar gyfer llunio cynllun i wella iechyd meddwl er mwyn helpu eraill.

Rydw i wastad wedi teimlo fy mod i rywsut yn wahanol i bobl eraill.

Yn fy arddegau roeddwn i’n aml yn teimlo’n flinedig ac wedi fy natgysylltu oddi wrth bobl eraill, ac yn teimlo fy mod i鈥檔 colli allan ar ryw gyfrinach mewn bywyd bod pobl eraill yn ei fwynhau.

Doeddwn i byth yn meddwl bod gen i broblem iechyd meddwl, dim ond fy mod i rywsut ddim cystal 芒 phobl eraill mewn llawer o ffyrdd.

Roeddwn i鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd bod 芒 diddordeb mewn fawr ddim, a threuliais i lawer o flynyddoedd yn fy arddegau a phan oeddwn i鈥檔 oedolyn yn yfed ac yn gwneud cyffuriau yn hytrach na datblygu hob茂au a sgiliau bywyd.

Cefais fy mhrofiad cyntaf o hypomania ar 么l i berthynas ddod i ben yn 2001. Roeddwn i’n teimlo’n well nag oeddwn i erioed wedi bod o鈥檙 blaen. Roeddwn i’n gallu cysylltu ag eraill ac yn gallu siarad 芒 bron unrhyw un. Roedd y profiad yn teimlo fel bod fy mywyd wedi newid o ddu a gwyn i liw dros nos.

Ar 么l ychydig fisoedd, fodd bynnag, es i yn 么l i deimlo’n flinedig ac yn araf eto, a doeddwn i ddim yn gallu gweithio allan beth oedd wedi newid.

Dros y blynyddoedd nesaf cefais ambell i fflach o liw eto, lle roeddwn i鈥檔 sydyn yn gallu cymryd mwy o ddiddordeb mewn hob茂au a gweithgareddau. Ceisiais weithio allan pryd roedd rhain yn digwydd, ac roedd yn ymddangos ei fod yn cyd-daro 芒 chyfnodau lle roeddwn i wedi bod yn gwneud ymarfer corff neu wedi newid fy diet rywsut.

Yn 2007, gadewais fy swydd i sefydlu fy nghwmni fy hun.

Roeddwn i’n gweithio’n ddiflino ac yn gallu byw heb fawr ddim cwsg, yn aml dim ond tair neu bedair awr y nos. Roedd fy musnes yn ffynnu a threuliais y tair blynedd nesaf yn teithio o amgylch y byd yn gweithio gyda fy mhartner, ac roedden ni鈥檔 byw bywyd wirioneddol anhygoel.

Yna, tua 2010 dechreuais deimlo pethau鈥檔 newid, a dechreuais fynd yn 么l ac ymlaen rhwng teimlo’n isel iawn a theimlo鈥檔 frwdfrydig iawn, weithiau o fewn yr un wythnos.

Sylweddolodd fy mhartner fod rhywbeth o鈥檌 le, ac yn y diwedd yn 2015 penderfynais fynd i weld seicolegydd. Cefais ddiagnosis o Anhwylder Deubegynol II, ac yn sydyn roedd fy mywyd fel pe bai’n gwneud synnwyr.

Es i ati鈥檔 syth i wneud cymaint o ymchwil 芒 phosibl er mwyn gweithio allan sut i鈥檞 gadw dan reolaeth.

Cymerodd gryn dipyn o flynyddoedd i mi gyrraedd y pwynt o fod yn “sefydlog”, ond drwy ddefnyddio sawl techneg ar yr un pryd, llwyddais o鈥檙 diwedd i daro cydbwysedd a oedd yn gweithio i mi, a oedd yn cynnwys llawer o ymarfer corff, newidiadau o ran deiet, arferion cysgu a gwaith da, ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar dyddiol, CBT, dysgu cymryd cyfrifoldeb llawn dros fy hun, osgoi straen, derbyn fy meddyliau a theimladau, a mwy.

Erbyn hyn, rwy’n teimlo mai bach iawn yw fy newidiadau o ran hwyliau, ac mae鈥檔 hawdd ymdopi. Rwy’n dal i roi cynnig ar bethau newydd ac yn gwella bob blwyddyn.

Gofynnodd rhywun i mi a ydw i’n gweld anhwylder deybegynol fel rhywbeth cadarnhaol neu negyddol, ac wrth edrych yn 么l ar fy mywyd, efallai y byddwn wedi ei ddisgrifio fel rhywbeth negyddol, ond erbyn hyn, o edrych ar faint rydw i wedi’i gyflawni, fy mhrofiadau, a鈥檙 nghynnydd rydw i wedi鈥檌 wneud, rydw i bendant yn ei weld fel rhywbeth cadarnhaol.

Ewch i wefan Steve Bipolar Control.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ff么n:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae鈥檙 NCMH yn rhan o鈥檙 isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd