Skip to main content

Iechyd meddwl plant a phobl ifanc

Mae gan tri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth broblem iechyd meddwl ac mae llawer mwy yn cael trafferth gyda heriau o fwlio i brofedigaeth.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ymchwilwyr yn ymchwilio i achosion problemau iechyd meddwl, a chyflyrau fel Anhwylder Gorfywiogrwydd Diffyg Sylw (ADHD), yn y gobaith o wella diagnosis, triniaeth a chefnogaeth i bobl o bob oed yn y dyfodol.

Isod mae detholiad o sgyrsiau gan ymchwilwyr iechyd meddwl, rhai wedi’u lleoli yn NCMH a rhai yr ydym yn cydweithio â hwy ar yr ymchwil hanfodol hon.

Iechyd meddwl ieuenctid mewn byd digidol

Mae Dr Ruth Sellers yn cymryd rhan mewn prosiect o’r enw Enurture sy’n canolbwyntio ar ddeall iechyd meddwl ieuenctid yn well mewn byd digidol.

Mae hi’n siarad am rywfaint o’r dystiolaeth ar gyfer risgiau digidol ar gyfer iechyd meddwl ieuenctid, cyfleoedd digidol i gefnogi iechyd meddwl, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer cadw’n ddiogel ar-lein.

Mae Ruth yn Uwch Ddarlithydd mewn Datblygiad Plant ac Iechyd Meddwl Cymunedol ym Mhrifysgol Sussex. Mae hi hefyd yn aelod cyswllt o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caergrawnt.

Mae sgwrs Ruth yn Saesneg.

Awgrymiadau ar gyfer pobl ifanc sy’n colli cwsg

Yn y gweminar hwn, mae Katie’n trafod:

  • beth sy’n rheoli ein cwsg
  • sut mae cwsg yn newid yn ystod ein harddegau
  • problemau cwsg a’r hyn y gallwn ei wneud yn eu cylch

Mae Katie’n Gydymaith Ymchwil yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn ymchwilio i’r cysylltiad rhwng cwsg ag iechyd meddwl.

Cwblhaodd BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerfaddon a PhD mewn Meddygaeth Seicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd ei PhD yn edrych sut mae colli cwsg yn gallu bod yn rhybudd cynnar o fania mewn anhwylder deubegynol a seicosis postpartum.

Yn ddiweddar dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Syr Henry Wellcome iddi, a bydd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng anhwylderau cwsg a hwyliau, yn defnyddio data genetig, hydredol a niwroffisiolegol.

Mae sgwrs Katie yn Saesneg.

Pobl ifanc a’u hwyliau a’u lles

Mae Dr Rhys Bevan Jones yn sôn am hwyliau, lles ac iselder ymysg pobl ifanc – gan gynnwys sut y gallai hwyliau drwg neu iselder ymddangos, rhesymau sylfaenol posibl, a dulliau i atal a rheoli anawsterau. Mae’n cael ei drafod yng nghyd-destun y person ifanc yn ogystal â’r teuluoedd / gofalwyr.

Bydd hefyd yn trafod rhaglen ddigidol o’r enw ‘MoodHwb’ i gefnogi hwyliau a lles. Cafodd y rhaglen ei datblygu gyda phobl ifanc, teuluoedd, gofalwyr ac ymarferwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae treial o’r rhaglen ar y gweill yng Nghymru a’r Alban.

Mae Rhys yn seiciatrydd ac yn ymchwilydd yn yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd.

Mae sgwrs Rhys yn Saesneg.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd