Skip to main content

Gorbryder a phyliau o banig

Beth yw gorbryder?

Mae’n beth arferol teimlo’n bryderus neu’n ofidus mewn sefyllfaoedd sy’n ymddangos yn fygythiol i ni.

Yn wir, gall rhywfaint o orbryder fod yn ddefnyddiol o ran ein paratoi ar gyfer digwyddiadau pwysig megis arholiadau neu gyfweliadau am swydd, neu drwy ein helpu i ddianc rhag sefyllfaoedd peryglus.

Mae gorbryder yn mynd yn broblem pan fydd yn para am gyfnod hir, yn mynd yn llethol, neu’n effeithio ar y ffordd rydym yn byw ein bywydau bob dydd.

Mae problemau gorbryder yn gyffredin, ac yn effeithio ar tua un o bob deg ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau.

Yn wir, cyfuniad o orbryder ac iselder yw’r broblem iechyd meddwl fwyaf cyffredin yn y DU. Gall pawb o bob oedran a phob math o gefndir gael problemau gorbryder.

Symptomau gorbryder

Gall pobl sydd â phroblemau gorbryder brofi nifer o symptomau seicolegol a chorfforol:

Symtomau corfforol

  • Tensiwn yn y cyhyrau
  • Penysgafnder
  • Ceg sych
  • Chwysu
  • Crynu
  • Goranadlu
  • Cyfog

Symptomau seicolegol

  • Teimlo’n bryderus
  • Fofni’r gwaethaf
  • Teimlo’n flin
  • Ei chael hi’n anodd canolbwyntio

Mae pawb yn profi gorbryder yn wahanol. Gall fod rhai teimladau neu symtomau corfforol wedi’u rhestru yma nad ydych erioed wedi’u profi. Ar y llaw arall, efallai eich bod wedi profi gorbryder mewn ffyrdd eraill heblaw am y rhain.

Anhwylderau gorbryder

I rai pobl, mae teimlo’n bryderus yn un o symptomau anhwylder gorbryder. Ymhlith rhai o’r anhwylderau mwyaf cyffredin mae:

Anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD): Teimlo’n bryderus am gyfnod hir heb reswm penodol. Yn aml, mae’r teimlad yn eich llethu ac yn eich rhwystro o bosibl rhag gwneud pethau rydych yn hoffi eu gwneud.

Anhwylder panig: Profi pyliau o banig yn ddirybudd. Gall hyn beri ofn y byddwch yn cael mwy o byliau o banig ac yn gwneud i chi osgoi sefyllfaoedd penodol.

Anhwylder obsesiynol-cymhellol (OCD): Mae gorbryder yn arwain at obsesiynau (meddyliau annymunol sy’n codi dro ar ôl tro) a chymelliadau (ymddygiad ailadroddus neu weithredoedd meddyliol). Gall yr obsesiynau a’r cymelliadau hyn eich atal rhag byw bywyd normal.

Ffobiâu: Ofn mawr rhywbeth penodol. Mae’r gwrthrych neu’r sefyllfa sy’n cael eu hofni fel arfer yn ddiniwed. Bydd ffobia yn gwneud i chi ymdrechu i osgoi’r sefyllfa rydych yn ei hofni.

Pyliau o banig

Mae pwl o banig yn llif o symptomau seicolegol a chorfforol dwys sy’n dechrau’n sydyn. Gall cael pwl o banig fod yn frawychus iawn ac yn anghyfforddus. Mae pyliau o banig yn achosi ymdeimlad llethol o ofn, yn ogystal â theimladau corfforol megis cyfog, chwysu a chrynu. Mae’n beth cyffredin teimlo fel na allwch anadlu, eich bod yn tagu, neu fel petai eich calon yn curo’n rhy gyflym.

Mae pyliau o banig fel arfer yn para rhwng 5 ac 20 munud, ac maent ar eu gwaethaf am 10 munud. Yn ystod pwl o banig mae’n beth cyffredin teimlo fel pe baech yn marw neu’n colli rheolaeth.

Dod o hyd i help

Os byddwch yn credu bod gennych chi neu rywun sy’n agos atoch broblemau â gorbryder nad ydynt yn gwella ohonynt hwy eu hunain, siaradwch â meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.

Triniaethau ar gyfer Gorbryder

Efallai bod gorbryder yn teimlo fel rhywbeth na fydd byth yn eich gadael, ond yn y rhan fwyaf o achosion mae’n gwella o gael y driniaeth gywir. Mae newid eich ffordd o fyw fel arfer yn lle da i ddechrau. Gall gael mwy o ymarfer corff, bwyta’n iach a chysgu’n dda eich helpu i deimlo’n llawer llai pryderus a’ch bod yn gallu ymdopi’n well.

Gall defnyddio adnoddau hunangymorth fod yn gam ddefnyddiol. Mae nifer o’r rhain ar gael ar ffurf llawlyfrau neu fel rhaglenni ar y rhyngrwyd. Gall y rhain gael eu rhagnodi gan eich meddyg yn aml. Mae therapïau siarad megis therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn driniaeth effeithiol ar gyfer gorbryder.

Mae therapi ymddygiad gwybyddol yn driniaeth sy’n helpu i newid y ffordd mae person yn meddwl ac yn ymddwyn. Mae’n nodi ffyrdd o feddwl di-fudd a gall helpu i dorri’r cylch o feddyliau negyddol. Mewn achosion cymedrol i ddifrifol, efallai y bydd angen meddyginiaeth. Mae llawer o bobl yn gweld eu bod yn helpu, ond gall fod anfanteision. Mae rhai pobl yn profi sgîl-effeithiau annymunol, a gallant gymryd nifer o wythnosau cyn dechrau gweithio.

Cyfuniad o newidiadau i’ch ffordd o fyw, therapïau siarad â meddyginiaeth yn aml yw’r ffordd fwyaf effeithiol o drin gorbryder.


Cofrestrwch nawr er mwyn gwneud gwahaniaeth
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd