Posted May 01st 2025
Mae pob pennod, sy’n cael eu cyflwyno gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, yn dod ag ymchwilwyr, clinigwyr, a phobl â phrofiad byw ynghyd i gael sgyrsiau gonest a hygyrch am iechyd meddwl.
Yn ystod y ddwy gyfres rydyn ni wedi dadansoddi pynciau cymhleth ac wedi cysylltu’r ymchwil iechyd meddwl ddiweddaraf â phrofiadau yn y byd go iawn. Rydyn ni wedi trafod amrywiaeth o bynciau pwysig, gan gynnwys:
- Anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth (cPTSD)
 - Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) mewn merched a menywod
 - Anhwylder Dysfforig Cyn y Mislif (PMDD) ac iechyd meddwl
 
Ar y gweill
Oherwydd y galw mawr a’r ffaith ein bod wedi cyrraedd 76,657 lawrlwythiad, rydyn ni’n dod â chwe phennod newydd i chi yn trafod:
- Therapi MDMA ar gyfer PTSD sy’n gwrthsefyll triniaeth
 - Gwybyddiaeth ac iechyd meddwl
 - Dogfennau dewis uwch: gwneud penderfyniadau ar gyfer pan fyddwn ni’n sâl
 - Sut beth yw profi seicosis
 - Cefnogaeth i bobl ifanc sy’n profi seicosis yng Nghymru
 - Anhwylder deubegynol a hunanladdiad
 
Gallwch ddod o hyd i Piece of Mind ar Spotify, Apple podcasts ac Acast.
Rydyn ni’n angerddol am wneud ymchwil iechyd meddwl yn fwy cynhwysol ac effeithiol – ac rydyn ni’n credu bod rhannu profiadau yn rhan hanfodol o’r genhadaeth honno.