Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Nicola

Mae Nicola, sy’n 46 oed, yn frwd dros gadw’n heini ac yn fam i dri o blant. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:

Fy enw i yw Nicola ac rwy’n 46 oed. Symudais i Gymru pan oeddwn yn 21 oed i astudio ac rwyf wedi bod yma byth oddi ar hynny. Rwy’n fam sengl i dair merch weddol ifanc ac nid wyf yn gweithio ar hyn o bryd. Rwyf wrth fy modd yn cadw’n heini – mae’n un o’r ychydig bethau sy’n fy nghadw’n gall! Mae’n braf gwneud rhywbeth ar fy mhen fy hun, ac mae’r llif o endorffinau’n helpu hefyd, heb os. Rwyf hefyd yn addysgu’n wirfoddol mewn dosbarth llythrennedd i oedolion, a phan fydd fy mhlant ychydig yn hŷn hoffwn hyfforddi i fod yn athrawes i oedolion.

Cefais fy mhwl cyntaf o iselder pan oeddwn tua 13 oed, ac fe barodd am ddwy flynedd. Dim ond ar ôl iddo ddod i ben y sylweddolais pa mor wael roeddwn wedi bod.

Cefais fy anfon at amrywiol gwnselwyr, seicolegwyr a seicotherapyddion drwy gydol fy arddegau, ond nid oedd y mathau hynny o driniaeth yn gweithio i mi yn bersonol.

Pan oeddwn yn 21 oed gwelais seiciatrydd a roddodd wrth-iselyddion ar bresgripsiwn i mi ac, yn sicr, mae’r rheini wedi helpu. Rwyf wedi rhoi cynnig ar wahanol fathau o feddyginiaeth, ond rwy’n poeni am ddatblygu ymwrthedd iddynt, gan fod hyn wedi digwydd o’r blaen.

Gwelais hysbyseb ar gyfer NCMH ar fws, a oedd yn gofyn am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn yr ymchwil. Mae fy nhad yn dioddef o iselder, bu farw un o’i chwiorydd drwy hunanladdiad, ac mae fy chwaer a’i merch hefyd yn dioddef o iselder. Mae’n ymddangos bod tueddiad genetig cryf i ddioddef o iselder yn fy nheulu, felly, yn amlwg, rwy’n pryderu y gallai effeithio ar fy merched. Dyma un o’r prif resymau pam roeddwn am helpu gyda’r ymchwil.

Er bod llawer o gynnydd wedi cael ei wneud dros y 30 mlynedd diwethaf o ran deall a thrin salwch meddwl, mae bylchau enfawr yn ein gwybodaeth o hyd, yn ogystal â llawer iawn o anwybodaeth a rhagfarn yn nealltwriaeth pobl mewn cymdeithas yn gyffredinol. Os gallaf wneud unrhyw beth i wella dealltwriaeth pobl, yna mae’n rhaid ei fod yn werth yr ymdrech i mi ac i unrhyw un arall y mae problemau iechyd meddwl wedi effeithio arnynt.

Roedd cymryd rhan yn yr ymchwil yn broses gyflym a di-boen. Roedd yr ymchwilydd yn gyfeillgar ac yn siaradus ac roedd y naws yn anffurfiol. Gofynnodd amrywiaeth o gwestiynau i mi a rhoddodd ychydig o holiaduron i mi eu cwblhau a’u dychwelyd yn fy amser fy hun. Cymerodd sampl gwaed hefyd. Cafodd pob cam o’r broses ei esbonio’n glir ac yn drylwyr.

Rwy’n gobeithio gallu perswadio fy mam, fy chwaer a’m nith i gymryd rhan yn yr astudiaeth hefyd, gan fy mod yn siŵr y byddai’n ddefnyddiol gallu astudio deunydd genetig pedwar person sy’n perthyn i’w gilydd. Mae fy nith, y mae ofn nodwyddau arni, yn falch o glywed ei bod yn gallu rhoi swabiad poer yn hytrach na sampl gwaed!

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd