Posted February 03rd 2025
Mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) yn cefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy’n profi symptomau seicosis.
Mae’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ganfod symptomau yn gynnar a chefnogi pobl i wella ar ôl seicosis. Mae’n gweithio’n benodol gyda’r rhai sy’n profi eu pwl cyntaf o seicosis neu sydd wedi cael diagnosis o fewn y tair blynedd diwethaf.
Mae gwefan newydd Seicosis Cymru wedi’i datblygu gan Weithrediaeth GIG Cymru a’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH), ac mae’n rhoi:
- gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yng Nghymru
- cyngor i bobl mewn argyfwng
- arweiniad a gwybodaeth i ffrindiau, teuluoedd a gofalwyr pobl sydd wedi profi’r cyflwr
- cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn ymchwil
- ac adnoddau i staff sy’n gweithio yn y gwasanaethau ymyrraeth gynnar
Profodd Maleeha Akbar, o Gaerdydd, seicosis yn 2020 ac fe gafodd gefnogaeth gan Headroom, gwasanaeth i’r rhai sydd wedi cael eu pwl cyntaf o seicosis. Mae hi hefyd wedi helpu i greu’r wefan newydd gydag aelodau eraill o’r cyhoedd sydd â phrofiad o fyw gyda’r cyflwr. Esboniodd Maleeha:
Yn 2020, allwn i ddim dychmygu y byddai fy mywyd yn gwella. Ond dros y pedair blynedd diwethaf, mae Headroom wedi bod yn gefn i mi ac wedi dangos bod ffordd ymlaen, er gwaethaf yr amheuon a’r ofnau. Maen nhw wedi helpu i fagu hyder yn ogystal â fy ngwneud yn gryfach ac yn fwy gwydn. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar ac yn falch ohonyn nhw a minnau am wella.
“Mae’r wefan yn edrych yn wych, a braint oedd cael bod yn rhan o’r broses ddatblygu fel person sydd â phrofiad o fyw gyda seicosis. Ar ben hynny, mae’n dangos i bobl eraill sydd â phrofiad o’r fath fod eu barn a’u cyngor yn bwysig er mwyn creu adnoddau fel hyn ar y cyd. Heb eu mewnbwn nhw, dydw i ddim yn meddwl y byddai’r wefan wedi gwireddu ei photensial yn llawn. Mae’r wefan newydd hon yn llawer mwy ystyrlon a defnyddiol i’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau, teulu a gofalwyr, yn ogystal â gwasanaethau eraill sy’n cynnig ymyrraeth gynnar.”
Deall seicosis
Mae seicosis yn broblem iechyd meddwl sy’n achosi i bobl brofi neu ddehongli pethau’n wahanol i’r rhai o’u cwmpas. Weithiau, caiff ei galw’n ‘colli cysylltiad’ â realiti.
Yn aml cyfeirir at brofi symptomau seicosis fel cael pwl seicotig. Gall rhywun ei brofi unwaith, dro ar ôl tro, neu fyw gydag ef y rhan fwyaf o’r amser.
Mae profiad pawb o seicosis yn wahanol ond mae rhai arwyddion a symptomau a allai fod yn debyg. Y mathau mwyaf cyffredin o brofiadau seicotig yw rhithweledigaethau, credoau anarferol a meddwl a siarad mewn ffordd anhrefnus.
Cymryd rhan a dysgu mwy
Esboniodd yr Athro James Walters, sy’n arwain ar y maes ymchwil hwn ar gyfer y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd:
Mae’n wych gweld yr adnodd newydd hwn ar seicosis ar gael i bobl ifanc yng Nghymru. Yn ogystal â chael gwybodaeth bwysig am ble i gael cymorth pan fydd ei angen arnoch chi, mae’n bwysig hefyd ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth o seicosis i wella dealltwriaeth y cyhoedd a beth i gadw llygad arno os bydd ffrind neu aelod o’r teulu yn ei brofi.
Dywedodd Dominique Bird, cyfarwyddwr cenedlaethol dros dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella, Gweithrediaeth GIG Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod wedi helpu i ddatblygu gwefan newydd Seicosis Cymru sy’n rhoi ymrwymiad o’r newydd i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a grymuso pobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan seicosis.
“Diolch i gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a’n partneriaid sydd wedi creu adnodd newydd hygyrch sy’n cynnig offer ac arweiniad defnyddiol. Bydd yn rhoi’r cymorth hanfodol sydd ei angen i ddeall, rheoli a gofalu am y rhai sy’n profi seicosis, gan sicrhau llwybrau mwy addawol at wella a dealltwriaeth.”
I gael gwybod rhagor am seicosis a’r gwasanaethau sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi pobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan y cyflwr, ewch i seicosis.cymru.
Rhagor o wybodaeth
- Ewch i wefan newydd Seicosis Cymru
- Gweminar – gwyliwch Sgitsoffrenia a seicosis: sut gall ymchwil wneud gwahaniaeth
- Cymryd rhan yn astudiaeth CONNECT – Defnyddio dyfeisiau clyfar i ragfynegi cyfnodau o seicosis
- Ymunwch a Gymuned Ymchwil NCMH