Skip to main content

Codi ymwybyddiaeth o ymchwil iechyd meddwl atgenhedlu yn Ŵyl Everywoman 2025

Ddydd Sadwrn 7 Mehefin, fe aeth y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl i drydydd digwyddiad blynyddol Gŵyl Everywoman yng Nghwrt Insole, Caerdydd.

Digwyddiad undydd yw’r ŵyl sy’n gyfle i ddathlu iechyd menywod a’u grymuso.

Wedi’i sefydlu yn 2023 gan yr Athro Julie Cornish, mae Gŵyl Everywoman yn parhau â’i chenhadaeth o rannu gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac arweiniad arbenigol ar ystod eang o bynciau iechyd gyda phawb sy’n bresennol.

Roedd yr ŵyl yn cynnwys cyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol dan arweiniad gweithwyr meddygol proffesiynol, eiriolwyr cleifion, a goroeswyr ac yn cynnwys trafodaethau ar ffibroidau, trais ar sail rhywedd, y menopos, goroesi canser, iechyd y pelfis, ac iechyd meddwl.

Roedd sesiynau arbennig hefyd yn ymdrin â materion cyfoes megis iechyd hormonaidd, endometriosis, ymarferion llawr y pelfis, a rheoli pwysau.

Rhannu ein hadnoddau iechyd meddwl atgenhedlu

Yn y Babell Addysg, arddangosodd y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl adnoddau ar wahanol gyflyrau iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth o ddwy astudiaeth yn ymwneud ag iechyd meddwl atgenhedlol.

Yr astudiaeth Mamau ac Iechyd Meddwl (MaM) yw nodi’r ffactorau sy’n achosi a sbarduno salwch meddwl difrifol yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth.

Mae astudiaeth PreDDICT yn edrych ar achosion a sbardunau anhwylder dysfforig cyn y mislif (PMDD); anhwylder hwyliau gyda symptomau sy’n ymddangos yn ystod cyfnod lwteal y gylchred fislifol.

Dywedodd Jess Yang, ymchwilydd iechyd meddwl atgenhedlu: “Roedd hi’n wych bod yn bresennol yn Ngŵyl Everywoman eto eleni i sgwrsio â phobl am ein hymchwil parhaus yn ymwneud ag iechyd meddwl atgenhedlol.

Clywson gan lawer o fenywod a oedd yn uniaethu â’r profiadau rydyn ni’n eu trin a’u trafod yn ein hymchwil, ac roedd mor ddefnyddiol siarad â nhw a sefydliadau tebyg ynglŷn â sut y gallwn ni ddatblygu’r maes gyda’n gilydd.”

Drwy gyfuno gwybodaeth feddygol, cefnogaeth gymunedol a mynegiant creadigol, mae strategaeth gynhwysfawr yr ŵyl yn cadarnhau ei safle yn lwyfan arloesol yn y DU.

Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i ehangu i leoliadau newydd, gan gynnwys Llundain yn 2026.

Diolch i Ŵyl Everywoman am ein gwahodd.

Cymorth gyda’n hymchwil

Darllen mwy
Adnoddau
Julia Pearce

Mae Julia yn Swyddog Cyfathrebu yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd