Posted November 11th 2026
Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi bod yr ymchwilydd, Dr Sam Chawner, wedi siarad yn ddiweddar am yr anhwylder osgoi a chyfyngu ar gymeriant bwyd (ARFID) ar y podlediad ‘Full of Beans’.

Mae Dr Sam Chawner yn cynnal ymchwil ar ARFID.
Mae ARFID yn anhwylder bwyta lle mae unigolion yn cyfyngu ar faint o fwyd, neu’r mathau o fwyd, y maen nhw’n eu bwyta. Yn ôl Dr Chawner, amcangyfrifir bod ARFID mor gyffredin ag awtistiaeth, ond ychydig iawn sy’n hysbys amdano.
Yn y podlediad gyda chyflwynydd y podlediad Full of Beans, Hannah Hickinbotham, mae Sam yn sôn am fylchau mewn ymchwil i ARFID, ac am y prosiect y mae’n helpu i’w ehangu ar y cyd â Choleg y Brenin, Llundain.
-
Cofrestrwch i gael diweddariadau am ymchwil i ARFID yn NCMH
Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr