Skip to main content

Astudiaeth COVID-19 ac ADHD: Deall yr effaith ar blant a’u teuluoedd

Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn gyfnod anodd i'r rhan fwyaf o bobl ac yn parhau felly, yn enwedig i deuluoedd â phlant a phobl ifanc ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Roedd Chelsea, myfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhan o dîm a ymchwiliodd i brofiadau teuluoedd.

Gyda llai o fynediad i wasanaethau wyneb yn wyneb, ynysigrwydd cymdeithasol a chyflwyno dysgu o bell, mae cyfyngiadau’r cyfnodau clo wedi effeithio’n anghymesur ar blant a phobl ifanc ag ADHD a’u teuluoedd.

Roedd addasiadau mewn trefnau ddyddiol a phryderon yn ystod pandemig COVID-19 yn gwaethygu ymddygiad heriol oedd eisoes yn bresennol ac yn cynyddu problemau o ran rheoleiddio emosiynau.

Mae astudiaethau wedi dangos bod plant a phobl ifanc ag ADHD yn dangos mwy o dristwch, diflastod, ymddygiad ymosodol ac aflonyddwch.

Cynhaliwyd arolwg gennym yng ngwanwyn 2021 i asesu effaith ganfyddedig y pandemig ar deuluoedd.

Ein hamcanion oedd:

  • Deall pwysigrwydd ymchwil i ADHD i rieni a gofalwyr.
  • Asesu effaith cyfyngiadau’r pandemig ar blant a’u teuluoedd.
  • Penderfynu a oedd gwahaniaethau o ran effaith mewn teuluoedd gan ddibynnu ar a oedd gan rywun yn y teulu COVID-19.
  • Archwilio newidiadau mewn hwyliau a lles y rhiant neu’r gofalwr a’r plentyn.

A woman working from home on a laptop with her child hugging her from behind.

Felly, beth ddysgon ni?

Dywedodd ychydig dros hanner y teuluoedd a gymerodd ran eu bod yn amau neu wedi cadarnhau bod salwch COVID-19 yn y teulu adeg yr arolwg.

P’un a oedd gan deuluoedd COVID-19 ai peidio, roeddent yn profi effaith sylweddol ar fywyd pob dydd oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.

Beth oedd y materion mwyaf?

Nodwyd yr effaith fwyaf fel a ganlyn:

  • Cyfyngiadau mewn gweithgareddau.
  • Cyfyngiadau ar deithio.
  • Llai o gyswllt cymdeithasol.
  • Anawsterau gydag addysg.

Roedd cyfyngiadau mewn gweithgareddau yn anodd i lawer. Dywedodd rhieni a gofalwyr fod llai o amser yn yr awyr agored wedi arwain at waethygiad yn symptomau ADHD, a oedd yn cynnwys diffyg sylw, gorfywiogrwydd a byrbwylltra.

Dywedodd rhieni a gofalwyr y canlynol yn ddienw:

Roedd diffyg rhyngweithio cymdeithasol a diffyg mannau chwaraeon yn anodd iawn i’m plentyn. Rydym yn dibynnu’n fawr ar weithgareddau chwaraeon i helpu i reoli’r lefelau ynni ac ar ôl i’r mynediad i’r rhain ddod i ben, roedd dirywiad amlwg yn lles fy mhlentyn.

Dywedodd un arall, “Roedd fy mhlentyn ag ADHD yn cael trafferth gyda diffyg ymarfer corff. Mae ei hwyliau a’i lefelau egni yn dioddef pan na all flino ei hun yn lân. Dechreuodd ddianc o’r tŷ tra roedden ni’n cysgu yn y nos gan ei fod yn teimlo ei fod wedi’i garcharu..  Dyw e ddim wedi gallu ymdopi ag addysg gartref.”

Effeithiwyd hefyd ar les meddyliol plant o ganlyniad i lai o gyswllt cymdeithasol ag eraill.

Fel yr eglurodd un rhiant, “Roedd eu hatal rhag gweld plentyn arall neu chwarae mewn perthynas rhwng plant a phlant am gyfnodau estynedig yn cael effaith ddifrifol barhaol ar eu lles meddyliol. Ar ôl y cyfnodau clo, roedden nhw’n ofnus iawn o blant eraill.”

Addysg a gofal iechyd

Roedd gorbryder mewn addysg yn bryder mawr i lawer o rieni a gofalwyr. Roedd addysg gartref yn anodd iawn i lawer, gyda gorfywiogrwydd a diffyg sylw yn gwaethygu’r sefyllfa.

Wrth gyflwyno dysgu ar-lein, nododd rhieni a gofalwyr ddiffyg trefn arferol ac, yn fwy arwyddocaol, diffyg cefnogaeth gan ysgolion.

Effeithiwyd yn fawr ar fynediad i ofal iechyd hefyd oherwydd bod llai o wasanaethau wyneb yn wyneb ar gael, gan ychwanegu mwy o rwystrau i dderbyn gofal iechyd.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, prin roedd nifer y rhieni a gofalwyr a nododd brinder bwyd, meddyginiaeth ac eitemau hanfodol.

Parents home-schooling their child.

Sut yr effeithiwyd ar rieni a gofalwyr?

Pwysleisiodd rhieni a gofalwyr yr angen am fwy o gymorth iechyd meddwl iddynt hwy a’u plant, yn ogystal â chymorth addysgol.

Roedd llai o fynediad i wasanaethau a’r addasiad i newidiadau ym mywyd y cartref yn ystod y pandemig yn rhoi pwysau ychwanegol arnynt.

Dywedodd un rhiant, “Roedd gorfod delio â fy mhlentyn yn gartref drwy’r amser pan nad oedd yn mynd i’r ysgol yn achosi blinder meddyliol.”

Nododd rhieni a gofalwyr gynnydd yn y baich o fod yn ofalwr, a arweiniodd at gynnydd mewn gorbryder, iselder a straen.

Pan ofynnwyd ‘Beth sydd wedi effeithio fwyaf arnoch chi a’ch teulu?’, dywedodd un ymatebydd:

Mae pwysau addysg yn y cartref wrth weithio gartref wedi effeithio fwyaf arnom. Roedd heriau addysg gartref plentyn â lefelau sylw gwael yn effeithio ar iechyd meddwl ein teulu.

“Roedd ein pryder am y plant yn colli allan ar addysg a’r effeithiau hirdymor hefyd yn effeithio arnom.”

Er i nifer o gyfranogwyr nodi cynnydd mewn pryder, mae astudiaethau eraill yn awgrymu bod y cyfnodau clo, i rai, yn caniatáu hyblygrwydd amserlenni a oedd yn lleddfu pryder i’r plentyn a’r gofalwr.

Children gathered on a playground roundabout.

Camau nesaf

Yn gyffredinol, dangosodd yr astudiaeth fod cyfyngiadau’r pandemig yn effeithio’n sylweddol ar deuluoedd â phlant ag ADHD.

Mae angen gwneud mwy o ymchwil i asesu’r effaith ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi.

Amlygodd yr astudiaeth hefyd fod rhieni a gofalwyr o’r farn bod ymchwil ar ADHD, ac yn arbennig ymchwil ar ganlyniadau iechyd hirdymor mewn unigolion ag ADHD, yn eithriadol o bwysig.

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ar hyn o bryd ac ysgolion ailagor, tynnwyd sylw at yr angen am gymorth a gallwn fod yn obeithiol bod mwy o gymorth ar gael yn awr.

Er gwaethaf hyn, mae’n bwysig bod mwy o gymorth cymdeithasol yn ogystal ag ymyriadau seicolegol i rieni a phlant ar gael yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg.

Adnoddau

Darllen rhagor

Chelsea Owusu

Chelsea is a final year medical student at Cardiff University with interests in GP and psychiatry.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd