Posted July 01st 2026
Beth yw ARFID?
Anhwylder bwyta yw ARFID a nodweddir drwy osgoi Fel arfer mae’n deillio o sensitifrwydd synhwyraidd, osgoi sy’n seiliedig ar ofn, neu ddiffyg diddordeb yn gyffredinol mewn bwyta.
Gan mai dim ond yn 2013 y cydnabuwyd ARFID yn ffurfiol, ychydig iawn o brofiad, os o gwbl, sydd gan lawer o glinigwyr o roi diagnosis o’r cyflwr. Mae nifer di-rif o unigolion wedi methu â chael diagnosis, neu caiff eu hanawsterau eu diystyru fel dim mwy na “bwyta ffyslyd”. Mae’r gydnabyddiaeth hwyr hon wedi gadael bylchau go iawn mewn ymchwil, triniaeth ac ymwybyddiaeth gyhoeddus.
Er mwyn deall y profiad o fyw gydag ARFID yn well siaradon ni â deg oedolyn am y camdybiaethau maen nhw wedi dod ar eu traws. Yn eu geiriau eu hunain, dyma ddeg peth sydd angen i chi eu gwybod:
- Dyw ARFID ddim yn gysylltiedig â delwedd y corff.
- Fydd bod yn ‘ddigon llwglyd’ ddim yn datrys ARFID.
- Dyw ARFID ddim yn rhywbeth dros gyfnod yn unig.
- Does dim stereoteip cywir o bobl sydd ag ARFID.
- Dyw profiad pawb o ARFID ddim yr un fath.
- Mae ARFID yn effeithio ar fwy na dim ond prydau bwyd.
- Nid pobl awtistig yn unig sydd ag ARFID.
- Does dim modd gwella ARFID.
- Dyw ARFID ddim yn ganlyniad i rianta gwael neu ddiog.
- Dyw ARFID ddim yn frwydr anobeithiol gydol oes.
1. Dyw ARFID ddim yn gysylltiedig â delwedd y corff
Gan fod ARFID yn anhwylder bwyta, weithiau mae pobl yn meddwl ei fod yn deillio o ofn yn ymwneud â delwedd y corff neu ennill pwysau. Fodd bynnag, nid y ffactorau hyn sy’n achosi ARFID:
“Maen nhw’n aml yn dychmygu rhywun yn cyfyngu ar fwyd am eu bod nhw’n ofni ennill pwysau neu’n casáu eu corff. Nid dyna beth yw ARFID.”
Mae hyn yn golygu y gall rhywun ag ARFID fod yn sâl waeth beth yw siâp a maint eu corff. Dyw pwysau ddim yn dangos difrifoldeb y cyflwr:
“Gall rhai unigolion ag ARFID fod o dan eu pwysau ac yn awyddus iawn i ennill pwysau … a gall eraill fod â phwysau cwbl gyffredin, neu gorff mwy o faint … nid pwysau yw’r ysgogiad.”
2. Fydd bod yn ‘ddigon llwglyd’ ddim yn datrys ARFID
Weithiau dywedir wrth rieni plant ag ARFID y bydd eu plentyn yn bwyta yn y pen draw os bydd yn ddigon llwglyd. Ond dyw hyn ddim yn wir.
I lawer o bobl ag ARFID, mae’r signalau sy’n arwyddo eu bod yn llwglyd wedi’u haflonyddu, sy’n golygu nad ydyn nhw’n deall eu bod nhw’n llwglyd:
“Dyw bwyd ddim yn apelio; mae prydau bwyd yn teimlo fel tasg heb wobr – rhywbeth i’w oddef yn hytrach na’i fwynhau.”
Mae bod yn wirioneddol ofnus o rai bwydydd yn golygu bod pobl ag ARFID yn cael eu cyfyngu i fwyta bwydydd maen nhw’n teimlo sy’n ddiogel. Gall hyn olygu bod diet amrywiol yn heriol ac yn rhwystredig os nad yw pobl yn deall yr anhwylder:
“Dyw’r anhwylder ddim yn nodi bod bwyd yn iach neu’n afiach: dim ond yn ddiogel neu anniogel. Mae dweud wrth rywun ag ARFID y dylen nhw fwyta dim ond pan maen nhw’n llwglyd fel dweud wrth rywun sy’n methu gweld y dylen nhw edrych yn galetach.”
3. Dyw ARFID ddim yn rhywbeth dros gyfnod yn unig.
Weithiau, caiff ARFID ei ystyried yn gyfnod mewn plentyndod fydd yn diflannu wrth i’r plentyn dyfu. Dyw hyn ddim yn wir, a gall ARFID effeithio ar unrhyw un beth bynnag eu hoed:
“Gall ofni canlyniadau niweidiol, diddordeb isel mewn bwyd, neu atgasedd synhwyraidd sy’n cyfyngu plentyn i bum bwyd yn bum mlwydd oed olygu bod yr un person yn dal i fwyta pum bwyd yn 35 oed.”
Pan gaiff ei labelu’n gyfnod, efallai nad yw oedolion ag ARFID sydd wedi bod yn brwydro’r cyflwr ers amser maith yn deall bod ganddo enw. Gallen nhw fod wedi datblygu ffyrdd o’i reoli nad yw pobl o bosibl yn eu gweld:
“Mae’r rhan fwyaf o oedolion ag ARFID wedi bod yn ei reoli’n dawel ers degawdau. O’r tu allan, mae’n edrych fel chwiw. Y cefnder yna sydd ddim yn bwyta dim byd ar wahân i fwyd beige…”
4. Does dim stereoteip cywir o bobl sydd ag ARFID
Weithiau bydd gan bobl syniad ymlaen llaw am sut mae rhywun ag anhwylder bwyta fel ARFID yn edrych. Ond gall ARFID effeithio ar lawer o bobl wahanol o gefndiroedd amrywiol:
“Y gwir yw y gall ARFID effeithio ar bobl o bob lliw a llun.”
Mae tybio y bydd rhywun ag ARFID yn perthyn i grŵp oedran, rhywedd neu hunaniaeth ddiwylliannol benodol yn effeithio’n negyddol ar bobl sydd ag ARFID nad ydyn nhw’n perthyn i’r grwpiau hyn. Gall ei gwneud hi’n anoddach cael cefnogaeth a gwella:
“Gall hyn fod yn anodd iawn i bobl nad ydyn nhw’n perthyn i’r categorïau “disgwyliedig” … mae tybio bod gan rywun sydd ag ARFID broffil penodol yn niweidiol i’r cyflwr yn gyffredinol ac i’r rhai sy’n dioddef.”
5. Dyw profiad pawb o ARFID ddim yr un fath
Mae ARFID yn gymhleth ac yn effeithio ar bob person yn wahanol. Mae hyn yn golygu y gallai rhai pobl fod yn rheoli’r cyflwr ers blynyddoedd ond gall fod yn ddatblygiad newydd i bobl eraill:
“Bydd rhai wedi bod yn dioddef ers cyn cof, a gallai eraill fod yn dioddef o ganlyniad i brofiad trawmatig neu hyd yn oed fel symptom o rywbeth arall.”
Mae’r tri is-deip o ARFID, sef sensitifrwydd synhwyraidd, diffyg diddordeb neu archwaeth ac ofni canlyniadau, yn golygu y gall pobl brofi cyfuniad o symptomau. Felly, mae pob profiad yn unigryw:
“…wrth ddelio â rhywun ag ARFID mae’n bwysig gwneud eich gorau i ddeall profiad yr unigolyn gyda’r cyflwr er mwyn llywio eich dull gweithredu.”
6. Mae ARFID yn effeithio ar fwy na dim ond prydau bwyd
Gan fod ARFID yn effeithio ar beth y gall pobl ei fwyta, gall gweithgareddau cymdeithasol sy’n galw am egni ac sy’n cynnwys bwyta deimlo’n frawychus. Mae hyn yn golygu y gellir eu hepgor neu eu hosgoi, gan arwain at deimladau o ynysu a cholli profiadau bondio:
“Fe gollais i’r cyfle i ddatblygu gyda gymnasteg elit oherwydd fy mod i’n ofni cymryd rhan yn y gwersylloedd.”
Mae colli’r profiadau hyn yn arwain at golli cyfle i ryngweithio’n gymdeithasol a magu hyder gan ymestyn ymhell y tu hwnt i amseroedd bwyd.
Gall y syniad o “beth dw i’n mynd i’w fwyta” fod yn llethol a’i gwneud yn anodd cynllunio prydau bwyd ac arwain at deimlo’n llwglyd drwy gydol y dydd:
“Mae plant ag ARFID yn colli allan ar gerrig milltir hanfodol sy’n meithrin hunan-barch a thalentau neu’n datblygu sgiliau. Mae eithrio parhaus fel hyn yn magu teimladau o ddieithrwch, gorbryder a thristwch dwys.”
7. Nid pobl awtistig yn unig sydd ag ARFID
Mae ARFID ac awtistiaeth yn ddau gyflwr gwahanol; dydyn nhw ddim yn eithrio ei gilydd. Gallant rannu rhai symptomau fel sensitifrwydd synhwyraidd, ond mae’r ddau yn cynnwys symptomau unigryw eraill:
“Mae llawer o bobl awtistig na fydd byth yn datblygu ARFID, ac mae llawer o bobl ag ARFID sydd ddim yn awtistig … gall awtistiaeth gynyddu’r tebygolrwydd o ARFID oherwydd sensitifrwydd synhwyraidd, ond dyw ARFID ddim yn ‘anhwylder bwyta awtistig’”
Mae dweud bod ARFID yn elfen o awtistiaeth yn diystyru difrifoldeb y cyflwr a gall arwain at gamddiagnosis. Gall hyn effeithio’n andwyol ar y ffordd y gall pobl ag ARFID gael cymorth i ehangu eu diet:
“Gall unrhyw un sydd ag ARFID wneud cynnydd ystyrlon gyda’r driniaeth a’r gefnogaeth iawn”
8. Does dim modd gwella ARFID
Mae rheoli ARFID yn heriol, gyda llwybr pawb yn unigryw ar y daith at adferiad a’r pwynt lle byddan nhw’n cyrraedd. Gall defnyddio termau fel ‘iachau’ neu ‘wedi gwella’ or-symleiddio’r broses, gan anwybyddu’r gwahanol heriau sy’n wynebu pob person wrth wella:
“Ceir camsyniad cyffredin, fel gydag anhwylderau bwyta eraill, y gellir gwella o ARFID … ond gall hyn yn aml fod yn nod afrealistig na all ellir ei gyrraedd i rai pobl sydd ag ARFID sy’n deillio o fod yn awtistig.”
Bydd y ffordd y mae rhywun yn rheoli ARFID yn unigryw iddyn nhw a’u profiad o’r anhwylder.
Dyw adferiad ddim yn dilyn llinell syth gydag un driniaeth i bawb, felly dyw ceisio diffinio un ddim bob amser yn helpu:
“Mae ARFID yn anhwylder bwyta ond, fel gyda phob anhwylder bwyta arall, dylai gael ei drin yn y ffordd sy’n gweddu orau i’r unigolyn. Dyw byw gydag ARFID ddim yn golygu bod eich llwybr triniaeth yn methu!”
9. Dyw ARFID ddim yn ganlyniad i rianta gwael neu ddiog
Mae rhieni plant ag ARFID yn gwneud eu gorau i ofalu am eu plentyn, a hynny’n aml heb gefnogaeth allanol.
Maen nhw’n gweithio’n anhygoel o galed i gadw eu plentyn yn iach. Mae’n gallu bod yn rhwystredig pan fydd pobl yn awgrymu bod caniatáu iddyn nhw fwyta eu ‘bwydydd diogel’ yn hytrach na’u gorfodi i ymestyn eu diet yn ddiog:
“Fydd person ag ARFID ddim yn bwyta dim ond am eu bod yn teimlo’n llwglyd, a gall ceisio gorfodi plentyn i fwyta neu ei newynu atgyfnerthu’r awydd i osgoi bwyd a gwaethygu symptomau ARFID.”
Gall y feirniadaeth a’r beio mae rhieni’n eu hwynebu yn sgil ARFID eu plentyn o du gweithwyr proffesiynol wneud eu tasg yn anoddach fyth, gan effeithio ar eu lles a diystyru eu rôl allweddol yn adferiad eu plentyn:
“Gall anwybyddu pryderon rhieni a gofalwyr atal ymyrraeth gynnar, gan arwain at ganlyniadau gwaeth i’r rheini sydd ag ARFID yn y tymor hir.”
10. Dyw ARFID ddim yn frwydr anobeithiol gydol oes
Mae amrywiol lwybrau triniaeth ar gael ar gyfer ARFID, er gwaethaf y diffyg canllawiau clinigol ar hyn o bryd. Mae’r darlun a geir yn y cyfryngau o’r cyflwr fel un parhaol heb obaith o welliant yn anghywir:
“Mae triniaethau hynod effeithiol, seiliedig ar dystiolaeth fel therapi ymddygiad gwybyddol ar gyfer ARFID (CBT-AR), triniaeth i’r teulu, a therapi amlygu penodol i ARFID yn helpu plant ac oedolion i wneud cynnydd gwirioneddol.”
Gyda neu heb driniaeth glinigol, gall rhywun ag ARFID wneud cynnydd ystyrlon a phrofi cerrig milltir pwysig mewn bywyd fel ymgymryd ag addysg, magu teulu, a theithio’r byd:
“It is not a ticking time bomb, and it is absolutely not a death sentence. You can absolutely find joy, connection, and success whilst also having ARFID.”
ARFID yng Nghanolfan NCMH
Yma yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, rydym ni’n ymrwymo i roi unigolion sydd â phrofiad bywyd go iawn o ARFID yn ganolog yn yr ymchwil i’n helpu i wella dealltwriaeth o ddiagnosis, cefnogaeth a thriniaeth ARFID yn y dyfodol.
Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf
Sign up for our ARFID newsletter to learn more about our ongoing research. You can keep up to date with the ARFID work going on at the NCMH by joining our newsletter which you can sign-up for here:
Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr ARFID ddarllen mwy am yr ymchwil sydd ar waith yn NCMH.
Adnoddau
BEAT – ARFID – Anhwylder Osgoi a Chyfyngu ar Gymeriant Bwyd
Ymwybyddiaeth ARFID – ARFID Awareness UK
