Posted June 03rd 2026
Daeth y digwyddiad ail-lansio ag ymchwilwyr, clinigwyr, cyfranwyr cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector at ei gilydd i dynnu sylw at sut mae cynnwys y cyhoedd yn llywio dyfodol cymorth, ymchwil a gwasanaethau iechyd meddwl. Roedd yn cynnwys cyfres o brif sgyrsiau, gweithdai, cinio ac arddangosfa o astudiaethau ac ymyriadau gweithredol y Ganolfan.
Wrth agor y digwyddiad, croesawodd yr Athro Jon Bisson dros 100 o bobl, gan fyfyrio ar effaith hirsefydlog y Ganolfan.
Mae NCMH yn un o’r canolfannau ymchwil sydd wedi bod ar fynd hiraf a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru,” Jon Bisson.
Ers 2011, mae’r Ganolfan wedi parhau i gael effaith ddramatig ar iechyd meddwl a lles pobl yng Nghymru drwy:
- Recriwtio dros 36,000 o bobl i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd meddwl, nifer cynyddol o bobl a elwir bellach yn ‘Gymuned Ymchwil’. Ymunwch heddiw.
- Datblygu cymorth a thriniaethau effaith uchel sy’n cael eu defnyddio yn y GIG megis therapi digidol y Gwanwyn ar gyfer anhwylder straen ôl-drawmatig a Rhaglen Addysg Deubegynol Cymru (BEP-C)
- Codi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â stigma iechyd meddwl drwy weithgareddau cynnwys y cyhoedd, ymgysylltu â nhw a rhoi gwybodaeth
- Defnyddio cyllid ymchwil i gefnogi prosiectau ymchwil iechyd meddwl mawr eraill.
Priodolodd yr Athro Bisson lwyddiant ac effaith ymchwil y Ganolfan ar brosiectau cydweithio allweddol gydag amrywiaeth o grwpiau gan gynnwys:
- arbenigwyr sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl
- y GIG yng Nghymru a Lloegr
- sefydliadau’r trydydd sector (gwirfoddol)
- academyddion rhyngwladol
- y sector masnachol
Helpwch ni i barhau â’n gwaith drwy ymuno â’r Gymuned Ymchwil
Galwodd yr Athro Bisson ar y rhai a oedd yn bresennol a’r cyhoedd i ymuno â Chymuned Ymchwil y Ganolfan a darparu data dienw a fydd yn helpu ymchwilwyr i:
- helpu i atal problemau iechyd meddwl
- sylwi arnynt yn gynt
- darparu gwell cefnogaeth a gofal
Mae’n golygu cwblhau arolwg 10 i 15 munud, gan ddarparu gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi a’ch profiadau o iechyd meddwl. Mae’n agored i unrhyw un 16+ oed, p’un a ydych chi wedi profi problemau iechyd meddwl ai peidio.
Ar ôl i chi gofrestru, efallai y cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn astudiaethau eraill y Ganolfan, a allai fod â thâl neu heb dâl. Byddwch hefyd yn cael mynediad i’r newyddion diweddaraf, penodau podlediad a digwyddiadau sydd ar ddod.
Uchelgais ehangach ar gyfer cymorth iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cael ei arwain gan anghenion
Yn y digwyddiad, amlinellodd Dr Chris O’Connor, Arweinydd Clinigol y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl, uchelgeisiau ar gyfer cymorth iechyd meddwl mynediad agored yng Nghymru, gan ddisgrifio system a gynlluniwyd i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn ac a arweinir gan anghenion. Ystyriodd fod canolfannau ymchwil fel NCMH yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r nodau hyn.
“Mae niferoedd cynyddol o bobl sy’n ceisio cymorth iechyd meddwl,” meddai Dr O’Connor. “Ceir heriau gwirioneddol ledled Cymru o ran cyflawni.”

Siaradodd am anghysondebau o ran mynediad at wasanaethau a’r angen i sicrhau bod pobl yn cael cymorth amserol waeth ble maen nhw’n byw.
Yr uchelgais yw i rywun sy’n chwilio am gymorth iechyd meddwl allu cael mynediad at y gwasanaeth yr un diwrnod hwnnw,” meddai.
Mae’r model arfaethedig, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r sefydliad o Ganada, Stepped Care Solutions, yn canolbwyntio ar rymuso unigolion i ddewis y lefel o gymorth sydd fwyaf addas i’w hanghenion.
“Bydd pobl yn aml yn gwybod beth sydd orau iddyn nhw,” meddai Dr O’Connor, gan ychwanegu y gall yr “ymyriadau lleiaf gael canlyniadau pwerus.”
Pwysigrwydd profiad byw a chynnwys y cyhoedd
Roedd profiad byw a chyfranogiad y cyhoedd yn thema bwysig arall trwy gydol y dydd.
Rhannodd Andrea Hughes, wrth siarad am gynnwys cleifion a’r cyhoedd (PPI), ei phrofiadau ei hun o ddyslecsia, iechyd corfforol sy’n dirywio ac iechyd meddwl gwael, ac esboniodd sut mae cymryd rhan mewn ymchwil wedi trawsnewid ei rhagolygon.
“Mae PAR fel teulu bach,” meddai, gan ddisgrifio grŵp cynghori cyhoeddus y Ganolfan mae hi bellach yn ei gadeirio ar ôl goroesi sepsis. Mae’r grŵp wedi cael ei gydnabod ers hynny gyda gwobr cyflawniad cyhoeddus gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Andrea (yn ôl ar y chwith) a grŵp Partneriaeth NCMH mewn Ymchwil (PÂR).
Pwysleisiodd Andrea fod cydweithio rhwng ymchwilwyr a’r cyhoedd yn hanfodol i newid ystyrlon.
“Mae arbenigwyr sydd â phrofiad eisiau helpu ymchwilwyr a chlinigwyr trwy fynegi’r hyn rydyn ni’n meddwl sydd ar goll.”
Trafododd y sawl a oedd yno hefyd bwysigrwydd gwella cynrychiolaeth mewn ymchwil, yn enwedig ymhlith grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol a chymunedau niwroamrywiol.
“Mae elfen bersonol mor bwysig.” Ychwanegodd Andrea.

Am dro pryd bwyd y prynhawn, archwiliodd y cyfranogwyr astudiaethau ymchwil NCMH presennol a mynegiannau ac mwynhau cwpcakes dathlu!
Yn dilyn y prif sgyrsiau, aeth y sawl a oedd yno i weithdai ar strategaethau recriwtio llwyddiannus mewn ymchwil iechyd meddwl, cynnwys cleifion a’r cyhoedd a’r data y gall y Ganolfan ei gynnig i ymchwilwyr. Wedi hynny, fe’u gwahoddwyd i ginio gyda chacennau dathlu ac arddangosfa o astudiaethau’r Ganolfan sy’n recriwtio ar hyn o bryd.
Daeth y digwyddiad i ben gyda myfyrdodau gan arweinwyr gweithdai a’r sawl a oedd yno, gan gynnwys trafodaethau ynghylch gwella tryloywder, gwneud data ymchwil yn fwy hygyrch ac ehangu cyfleoedd i gydweithio, yn enwedig gyda grwpiau trydydd sector (gwirfoddol).
Darllenwyd cerdd bwrpasol, wedi’i chasglu gan yr awdur/artist/ymgyrchydd dros anableddau, Rosamund McCullain, o eiriau a ysgrifennodd y sawl a fu yn y gweithdy mewn ymateb i’r sbardun: “Rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth gyda’n gilydd oherwydd…”
Ydych chi’n gweithio i sefydliad trydydd sector (gwirfoddol)?
Rydym yn galw ar sefydliadau’r trydydd sector (gwirfoddol) i’n helpu i gyrraedd pobl o bob cefndir fel eu bod yn cael eu cynrychioli’n well mewn ymchwil. Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio â ni, e-bostiwch ncmh.info.
Ymunwch â’r Gymuned Ymchwil heddiw
