Posted March 28th 2025
Dan arweiniad Anabledd Dysgu Cymru, dechreuodd y prosiect Engage to Change yn 2016, a gweithiodd ledled Cymru ar y cyd â’r asiantaeth ELITE Supported Employment, Agoriad Cyf a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i helpu pobl ifanc ag anabledd dysgu, anhawster dysgu a/neu awtistiaeth i wireddu eu potensial drwy hyfforddiant swyddi a chyflogaeth â chymorth.
Ers 2023, mae Influencing and Informing Engage to Change, sef partneriaeth rhwng y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu Cymru, wedi gweithio ledled Cymru ac ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac aelodau’r Senedd i hyrwyddo arfer da a dylanwadu ar bolisïau ynghylch hyfforddiant swyddi a chyflogaeth â chymorth i bobl ifanc ag anabledd dysgu ac awtistiaeth. Sefydlwyd tîm Engage to Change y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl gan Dr Stephen Beyer, a chynhaliwyd yr ymchwil gan Dr Elisa Vigna, Andrea Meek, Jacob Meighan a’r Cydymaith Ymchwil Anrhydeddus Gerraint Jones-Griffiths.
Rhoddodd Engage to Change dystiolaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar yr effaith bwerus y mae hyfforddiant swyddi a chyflogaeth â chymorth yn ei chael ar unigolion ag anabledd dysgu, anhawster dysgu a/neu awtistiaeth. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda 1,300 o bobl ifanc ac 800 o gyflogwyr, gan sicrhau cyfradd cyflogaeth o 41% o’i chymharu â’r cyfartaledd yn genedlaethol o 4.8%.
Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog, cododd Dr Hefin David AS bryderon y byddai gwaith Engage to Change yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025, ac anogodd Lywodraeth Cymru i gefnogi hyfforddiant swyddi ‘yn llawn’, “gan sicrhau bod hyfforddiant swyddi’n parhau a bod [etifeddiaeth Engage to Change yn cael ei pharhau] ledled Cymru.”
Nododd y Prif Weinidog Eluned Morgan ganlyniadau ‘syfrdanol’ y prosiect Engage to Change, ac ymrwymodd i brif ffrydio darpariaeth hyfforddiant swyddi a chyflogaeth â chymorth yng Nghymru:
“Mae’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect Engage to Change hwnnw yn hollbwysig i lunio arferion a pholisïau hyfforddiant swyddi yng Nghymru yn y dyfodol. O 2027, bydd rhaglen cymorth cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru’n cynnwys gwasanaethau hyfforddiant swyddi arbenigol.”
Roedd Cymrawd Ymchwil y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, Dr Elisa Vigna, wrth ei bodd gyda’r cyhoeddiad: “Mae hyn yn fuddugoliaeth fawr i gyflogaeth gynhwysol yng Nghymru. Roedd gwaith y bartneriaeth a’r gwerthusiad annibynnol o Engage to Change wedi ein galluogi i ddangos beth sy’n gweithio. Rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i ddefnyddio adnoddau Engage to Change i lywio sut y bydd y rhaglen cymorth cyflogadwyedd newydd yn cael ei datblygu.”
Yn anffodus, oherwydd diffyg cyllid, ni fydd aelodau tîm ymchwil anabledd dysgu y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl yn eu swyddi ar ôl 31 Mawrth 2025. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Anabledd Dysgu Cymru, sef partner arweiniol Engage to Change, drwy e-bostio enquiries@ldw.org.uk.