Skip to main content

Gweminar gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a gwybyddiaeth

Cynhaliodd y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl weminar lawn gwybodaeth ddydd Mercher 14 Mai yn trafod iechyd meddwl a gwybyddiaeth.

Canolbwyntiodd y weminar ar y cysylltiad, sy’n aml yn cael ei anwybyddu, rhwng heriau iechyd meddwl a gweithrediad gwybyddol, yn ogystal â’r modd y gellir defnyddio asesiadau gwybyddol ar-lein i wella gofal clinigol.

Daeth y digwyddiad ag ymchwilwyr ac unigolion â phrofiad byw ynghyd i drafod sut y gall cyflyrau iechyd meddwl effeithio ar brosesau gwybyddol allweddol, fel y cof, canolbwyntio, a gwneud penderfyniadau.

Cyflwynwyd yr ymchwil ddiweddaraf yn y maes gan Dr Amy Lynham, arweinydd prosiect Asesu Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (CONCA).

Tynnodd sylw at dystiolaeth gynyddol bod gan wahanol fathau o ddiagnosis botensial i amharu ar weithgarwch gwybyddol mewn parthau gwybyddol amrywiol, gan gynnwys cynllunio, atal a chof gweithredol.

Fodd bynnag, mae ymchwil hefyd yn dangos mai pobl sydd â sgitsoffrenia sydd â’r namau gwybyddol mwyaf difrifol, ar gyfartaledd.

Meddai Dr Lynham: “O ran heriau iechyd meddwl, mae anawsterau gwybyddol yn aml yn cael eu hanwybyddu, er bod ymchwil yn dangos eu bod yn effeithio ar bobl sydd â chyflyrau amrywiol.

“Diolch i’n gwaith gyda’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl a Doeth am Iechyd Cymru, rydyn ni wedi cael dealltwriaeth gliriach o sut y gall yr anawsterau hyn effeithio ar fywyd bob dydd, gan gynnwys hunan-ofal, gwaith, a pherthnasoedd gydag unigolion eraill.

Drwy weithio’n agos gyda phobl sydd wedi cael profiad o’r cyflyrau hyn, rydyn ni wedi datblygu teclyn newydd i asesu gweithrediad gwybyddol, ac rydyn ni’n ei brofi ar hyn o bryd. Y nod yw ei ddefnyddio mewn ymarfer clinigol yn y pen draw.

 Ar ben hynny, dengys ymchwil gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl a Doeth am Iechyd Cymru fod gweithrediad gwybyddol yn effeithio ar fywyd bob dydd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys symudedd, hunan-ofal, cyfrifoldebau yn y cartref, problemau gwybyddol, bywyd cymdeithasol a’r gallu i gymryd rhan mewn cymdeithas.

Cefnogwyd hyn gan stori bersonol ddirdynnol Tony Cope, aelod o’r grŵp Partneriaeth mewn Ymchwil (PÂR) ac sy’n cymryd rhan yn CONCA.

Rhannodd Tony brofiadau o fyw gydag anawsterau iechyd meddwl, COVID hir ac am yr effeithiau ar ei allu gwybyddol. Mae ei stori yn pwysleisio’r heriau go iawn y mae nifer o bobl yn eu hwynebu, ac mae’n tynnu sylw at yr angen am ddulliau cyfannol o ofalu am iechyd meddwl.

Dywedodd Tony: “Fe wnes i’n dda yn yr ysgol a chael gradd yn y brifysgol, ac yna gyrfa yn y gwyddorau biofeddygol, a sefydlu fy musnes fy hun.

Pan oeddwn i ar bwynt ‘uchel’, roedd fy ngwybyddiaeth i drwy’r to – byddwn i wedi gallu rhedeg y byd! Pan oeddwn i’n isel fy ysbryd, roedd fy ngwybyddiaeth i’n diflannu’n llwyr.

Yna, aeth Tony ymlaen i siarad am ei brofiad o gymryd rhan yn CONCA ac fel cydweithredwr yn rhaglen Cyfranogiad gan Gleifion a’r Cyhoedd (PPI). Cafodd brofion gwybyddol amrywiol i asesu a yw’r offeryn asesu ar-lein yn gallu cynnig mesuriadau cyson o allu gwybyddol dros amser.

Daeth y sesiwn i ben gyda chyfle i holi ac ateb cwestiynau, gan sbarduno trafodaeth agored am bwysigrwydd cynnwys asesu gwybyddol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Diolch i bawb a ymunodd â ni ar gyfer y we-gynhadledd.

Dal i fyny nawr

Dysgwch mwy

Julia Pearce

Mae Julia yn Swyddog Cyfathrebu yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd