Skip to main content

Cadw’n ddiogel yn yr haul: sut y gall rhai meddyginiaethau effeithio ar allu eich corff i gadw’n oer

Mae'r tymereddau uchaf erioed a'r tywydd poeth aml a brofwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dod yn rhan gynyddol gyfarwydd o'n hafau. I bobl sy'n cymryd meddyginiaeth, mae'n arbennig o bwysig aros yn ddiogel yn yr haul.

Mae’r tymereddau uchaf erioed a’r tywydd poeth aml a brofwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dod yn rhan gynyddol gyfarwydd o’n hafau.

Er bod llawer o bobl yn mwynhau tywydd cynhesach (ac yn hapus i gael seibiant o’r glaw), gall cyfnodau hir o wres fynd yn anghyfforddus ac, mewn rhai achosion, achosi risgiau iechyd.

Gall tywydd poeth amharu ar gwsg, effeithio ar weithgareddau dyddiol a rhoi straen ychwanegol ar y corff.

Un ystyriaeth bwysig yw’r ffaith y gall rhai meddyginiaethau, a ddefnyddir ar gyfer ein hiechyd meddwl a chorfforol, effeithio ar allu’r corff i reoleiddio ei dymheredd mewn tywydd poeth.

Mae’r broses hon, a elwir yn thermoreoli, yn helpu i gynnal tymheredd corff sefydlog trwy gyfuniad o weithrediad yr ymennydd, hormonau, y system nerfol a’r broses chwysu, sy’n caniatáu i’r corff ei oeri ei hun.

Meddyginiaethau a chadw’n oer

Gall rhai meddyginiaethau ymyrryd â’r broses oeri naturiol hon. Mae’r rhain yn cynnwys rhai cyffuriau gwrthiselder, cyffuriau gwrthseicotig, sefydlogwyr hwyliau, bensodiasepinau a meddyginiaethau ADHD, yn ogystal â meddyginiaethau a ddefnyddir i drin amrywiaeth o gyflyrau iechyd corfforol, gan gynnwys clefyd y galon, diabetes, gwrthfiotigau, heintiau ac alergeddau.

Gall y meddyginiaethau hyn effeithio ar thermoreoli mewn ffyrdd gwahanol, megis trwy gynyddu cynhyrchiant gwres, lleihau chwysu neu newid mecanweithiau oeri arferol y corff. O ganlyniad, gallai rhai pobl fod yn fwy agored i orboethi, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd poeth iawn.

Mae effeithiau’r meddyginiaethau hyn yn amrywio o unigolyn i unigolyn, a gallai rhai grwpiau, megis oedolion hŷn, fod yn fwy agored i niwed nag eraill.

Fodd bynnag, ni ddylech roi’r gorau i gymryd eich meddyginiaeth ragnodedig o achos tywydd poeth. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut y gallai eich meddyginiaeth effeithio arnoch yn ystod cyfnodau o dymheredd uchel, siaradwch â’ch meddyg teulu, eich fferyllydd neu eich tîm gofal iechyd cyn gwneud unrhyw newidiadau.

Adnabod arwyddion gorboethi

Mae’n bwysig adnabod yr arwyddion cynnar sy’n dangos y gallai eich corff fod yn ei chael yn anodd oeri ei hun.

Gall symptomau gynnwys:

  • pendro a theimlo’n benysgafn
  • cur pen
  • crampiau yn y cyhyrau
  • curiad calon cyflym
  • teimlo’n anarferol o flinedig neu’n wan
  • cyfog neu chwydu

Os byddwch yn profi’r symptomau hyn, symudwch i le oerach, yfwch ddŵr a chymerwch gamau i ostwng tymheredd eich corff. Os bydd symptomau’n mynd yn ddifrifol neu os nad ydynt yn gwella, ewch i gael cyngor meddygol ar unwaith.

Cadw’n ddiogel yn ystod tywydd poeth

Mae yna sawl cam syml y gallwch eu cymryd i atal a lleihau’r risg o orboethi:

  • defnyddio eli haul a gwisgo het neu ddefnyddio ymbarél i amddiffyn eich hun rhag golau haul uniongyrchol
  • osgoi treulio cyfnodau hir yn uniongyrchol dan yr haul ac aros yn y cysgod lle bo mod
  • osgoi ymarfer corff egnïol yn ystod adeg boethaf y dydd
  • yfed digon o ddŵr i’ch hydradu eich hun, yn enwedig os ydych yn cymryd lithiwm
  • cyfyngu ar alcohol a diodydd sy’n cynnwys caffein, gan y gallant gyfrannu at ddadhydradu
  • gwisgo dillad ysgafn, llac
  • cael cawodydd oer, bath neu ddefnyddio cadach llaith i helpu i ostwng tymheredd eich corff

Wrth i’n hafau gynhesu, mae deall sut y gall gwres effeithio ar ein cyrff a’r meddyginiaethau yr ydym yn eu cymryd yn gynyddol bwysig.

Trwy adnabod arwyddion gorboethi, hydradu eich hun a chymryd rhagofalon syml, gallwch barhau i fwynhau’r tywydd cynhesach wrth helpu i warchod eich iechyd.

Hoffem ddiolch i Tegan Conway a Fiona Cule am eu cymorth wrth gynhyrchu’r daflen “Cadw’n Ddiogel yn yr Haul” wreiddiol.

Adnoddau

  • Lawrlwythwch ein poster A4 newydd ar gadw’n ddiogel yn yr haul
    NCMH sun safety A4 poster (2026 – Cym)
    Crëwyd gan Y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
John Tredget

Mae John yn nyrs iechyd meddwl sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, yn ymchwilydd, ac yn gyd-awdur y Rhaglen Addysg Bipolar Cymru (BEPC) enillydd gwobrau yn Prifysgol Caerdydd.

Find out more.
Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd