Skip to main content

Ymchwilydd yn dweud ei ddweud am anhwylder osgoi a chyfyngu ar gymeriant bwyd ar bodlediad Full of Beans

Mae ymchwilydd o'r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) wedi siarad am anhwylder bwyta sy'n llai adnabyddus, o'r enw anhwylder osgoi a chyfyngu ar gymeriant bwyd.

Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi bod yr ymchwilydd, Dr Sam Chawner, wedi siarad yn ddiweddar am yr anhwylder osgoi a chyfyngu ar gymeriant bwyd (ARFID) ar y podlediad ‘Full of Beans’.

Llun o Dr Sam Chawner sy'n gwenu.

Mae Dr Sam Chawner yn cynnal ymchwil ar ARFID.

 

Mae ARFID yn anhwylder bwyta lle mae unigolion yn cyfyngu ar faint o fwyd, neu’r mathau o fwyd, y maen nhw’n eu bwyta. Yn ôl Dr Chawner, amcangyfrifir bod ARFID mor gyffredin ag awtistiaeth, ond ychydig iawn sy’n hysbys amdano.

Yn y podlediad gyda chyflwynydd y podlediad Full of Beans, Hannah Hickinbotham, mae Sam yn sôn am fylchau mewn ymchwil i ARFID, ac am y prosiect y mae’n helpu i’w ehangu ar y cyd â Choleg y Brenin, Llundain.

Julia Pearce

Mae Julia yn Swyddog Cyfathrebu yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd