Posted March 16th 2026
Roedd cyfraniad Laura i’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) a’r dirwedd ymchwil ehangach ledled y byd yn eithriadol.
Yn ystod ei chyfnod fel Rheolwr y Ganolfan ar gyfer yr Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) (2015-2017) ac NCMH (2018 – 2020), roedd hi’n ffigur allweddol ac roedd ei harweinyddiaeth, ei gweledigaeth glir a’i hymrwymiad dwfn i ragoriaeth ymchwil wedi helpu i lunio cyfeiriad y ganolfan a chryfhau ei sylfeini.
Dywedodd yr Athro Ian Jones, cyn-gyfarwyddwr NCMH:
“Fel cyn-gyfarwyddwr NCMH, cefais y fraint o weithio’n agos gyda Laura yn ystod ei hamser fel Rheolwr y Ganolfan. Roedd Laura yn wych ac yn weithgar, a’r hyn a oedd yn ei gwneud yn arbennig oedd ei dealltwriaeth ddofn o bobl a’r awydd gwirioneddol i’w gweld yn llwyddo.
“Roedd hyn yn glir i’r rhai â phrofiad byw o salwch meddwl a gymerodd ran yn ein hymchwil ac i’r rhai a oedd yn gweithio yn ein tîm. Roedd hi’n gydweithiwr rhagorol ac yn fwy na hynny roedd hi’n ffrind arbennig. Roedd hi’n berson anhygoel a bydd yr atgofion amdani yn aros gyda phawb a oedd yn ei hadnabod.”
Dywedodd yr Athro Jon Bisson, cyfarwyddwr NCMH:
“Roedd Laura yn berson rhyfeddol a thalentog iawn a bydd colled fawr ar ei hôl. Rwy’n ddiolchgar iawn am bopeth mae hi wedi’i wneud i NCMH ac am gyfrannu cymaint at y platfform cryf rydym yn adeiladu arno nawr.”
Dywedodd yr Athro William Gray, cyfarwyddwr y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch (yr Uned BRAIN gynt):
“Roedd Laura yn unigolyn ysbrydoledig a oedd yn allweddol i lwyddiant yr Uned BRAIN o’i sefydlu hyd at ei hesblygiad i fod yn Ganolfan Niwrotherapïau Uwch. Roedd ganddi ddealltwriaeth graff ac roedd hi bob amser yn llwyddo i ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio prosesau a phrotocolau i gyflawni pethau.
“Yn fwy na dim, roedd hi’n berson rhyfeddol ac mae ei charedigrwydd, ei hempathi a’i haelioni wedi cyffwrdd â ni i gyd. Byddwn ni bob amser yn ei chofio hi a’i gwên ddisglair.”
Roedd Laura yn rhan arwyddocaol o ddatblygiad grŵp cynnwys y cyhoedd a chleifion NCMH, sef Partneriaeth mewn Ymchwil (PÂR)
Dywedodd Amanda, aelod presennol o PÂR:
“Roedd Laura mor allweddol yn y gwaith o sefydlu a datblygu PÂR. Fy mhrif atgof o Laura yw ohoni’n agor y drws i’m gadael i mewn i’r adeilad ar ôl bod allan am sigarét – bob amser gyda gwên hyfryd. Bydd colled fawr ar ei hôl hi, ei hangerdd, ei hymroddiad a’i chynhesrwydd.”
Yn fwy cyffredinol, mae Laura yn cael ei chofio fel myfyrwraig PhD eithriadol ym Mhrifysgol Caerdydd, a chyfrannodd ei gwaith at wella gofal ffrwythlondeb i fenywod ledled y byd.
Dywedodd yr Athro Jacky Boivin, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod Cymru:
“Laura oedd un o fy myfyrwyr PhD cyntaf. Roedd hi’n fyfyrwraig eithriadol a chyfrannodd ei hymchwil at newidiadau mawr ym maes meddygaeth atgenhedlu, gan helpu menywod ledled y byd i leihau eu risg o anffrwythlondeb, ac os ydynt yn anffrwythlon i gael gwell mynediad at ofal ffrwythlondeb o ansawdd uchel.
“Hefyd, roedd ei gwaith wedi ysbrydoli’r alwad a ariannodd Ganolfan Ymchwil Iechyd Menywod gyntaf Cymru. Byddaf bob amser yn cofio Laura gyda llawer o hoffter a gwerthfawrogiad.”
Dywedodd yr Athro James Walters, cyfarwyddwr yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Roeddwn i’n rhannu swyddfa fach ar y 10fed llawr ym Mhrifysgol Caerdydd gyda Laura yn ystod ein PhD a gwnaeth hi’r cyfnod hwnnw o fy mywyd yn llawenydd pur! Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda Laura eto pan oedd hi’n gweithio fel Rheolwr yr Uned BRAIN ac yna’n Rheolwr NCMH.
“Drwy gydol ein hamser yn gweithio gyda’n gilydd, roedd Laura yn garedig, yn gwneud amser i bobl, yn ymroddedig i’w gwaith… ac mae ein gwaith ehangach yn parhau i elwa o’r systemau a gyflwynodd ym Mhrifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru.
“Yn anad dim, bydd ysbryd, cynhesrwydd ac agwedd ddi-baid Laura at gyflawni pethau yn parhau, ac yn parhau i’n hysbrydoli. Diolch yn fawr, Laura.”
Mae hi hefyd yn cael ei chofio am ei gwaith gyda Llywodraeth Cymru (2019-2026) fel Arweinydd Seilwaith Ymchwil a Meddygaeth Arbrofol yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Dywedodd Helen Richards, rheolwr yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Roedd Laura yn berson prydferth, y tu mewn a’r tu allan. Roedd hi’n anhygoel o ddisglair, ffraeth, gwylaidd a phenderfynol, ond yn anad dim roedd hi’n garedig.
“Ar ôl gadael Prifysgol Caerdydd, cefais y fraint o barhau i weithio gyda Laura yn ei rôl newydd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac roedd hi’n gwneud y gwaith hwnnw gyda’r un ddawn, cymhwysedd ac ymrwymiad a oedd yn diffinio popeth roedd hi’n ei wneud.
“Roedd synnwyr Laura o degwch a chyfiawnder cymdeithasol yn treiddio i bopeth roedd hi’n ei gyffwrdd. Roedd ganddi ddealltwriaeth reddfol o’r hyn sy’n iawn, ac roedd hi’n hyrwyddo hynny’n dawel ond yn bwerus. Rwy’n falch o fod wedi cael ei galw’n ffrind.”
Rydym yn cydymdeimlo’n fawr â theulu Laura – bydd pawb a oedd yn ei hadnabod yn ei cholli’n fawr.
Ewch i Kudoboard Dr Laura Bunting i ychwanegu unrhyw ddymuniadau da.