Posted October 20th 2026
Fy mhrofiad i o siapio polisi anhwylderau bwyta: Stori John
Amdana i
Helo, John Duddy ydw i, ac rwy’n rhan o banel ARFID Connect yma yn y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH).

Mae John yn aelod o banel profiad byw ar gyfer Anhwylder Bwyta Cyfyngedig Osgoi (ARFID) o’r enw ARFID Connect
Ynglŷn â’r adroddiad
Ro’n i’n rhan o adroddiad diweddar gan yr elusen Beat Eating Disorders, a lansiwyd ym Mhalas San Steffan. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at brofiadau pobl awtistig sydd ag anhwylderau bwyta a’r ffaith bod gwasanaethau presennol yn aml yn methu â diwallu eu hanghenion.
Cafodd yr adroddiad “Not Designed for Me – Transforming eating disorder support for Autistic people” ei ysgrifennu gan Eleanor Speakman ac Umairah Malik o elusen Beat. Cyfrannodd clinigwyr, ymchwilwyr, arbenigwyr polisi a phobl â phrofiad personol at yr adroddiad hefyd – gan gynnwys fi ac arbenigwyr eraill o’r astudiaeth ARFID yma yn y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl.
Sut cymerais i ran
Mae’n rhaid i fi ddiolch i fy mhartner a argymhellodd fy mod i’n cofrestru ar gyfer rhestr bostio Beat. Ers hynny,rydw i wedi bod yn rhan o lawer o gyfleoedd lle rydw i wedi gallu gwasanaethu fel arbenigwr trwy brofiad ar amrywiaeth o brosiectau anhwylderau bwyta – gan gynnwys yr astudiaeth ARFID yn NCMH!
Pan glywais i am y cyfle i gyfrannu at adroddiad newydd Beat ar anhwylderau bwyta ac awtistiaeth, ro’n i’n teimlo bod gen i brofiad a allai fod yn ddefnyddiol.
Cyfrannu at yr adroddiad
Yn gyntaf, gofynnwyd i ni adolygu’r prif ganfyddiadau ymchwil a’r argymhellion ar brofiadau pobl awtistig ag anhwylderau bwyta a’u teuluoedd.
Roedd hyn yn cynnwys:
- trafod sut roedd y canfyddiadau hyn yn berthnasol i’n profiadau ni
- a oedden ni’n meddwl bod angen newid rhywbeth
- beth oedden ni’n teimlo y gallai effaith yr argymhellion fod
“Roedd gallu helpu i lunio’r canllawiau ar sut dylid darparu triniaeth yn brofiad gwerth chweil, ac mae’r syniad y gallai hyn helpu pobl i gael profiad gwell wrth geisio cymorth yn rhoi ymdeimlad o foddhad.”
Ar ôl hyn, fe adolygon ni ddrafft yr adroddiad.
Roedd hyn yn cynnwys:
- adolygu’r strwythur
- cynorthwyo â dewis dyfyniadau i’w defnyddio
- helpu i ddiffinio teitl yr adroddiad
Roedd yr ail gam yn sicr yn fwy o waith na’r cam cyntaf, ond doedd dim angen i fi dreulio mwy nag ychydig oriau ar y broses gyfan dw i ddim yn meddwl!
Beth oedd prif ganfyddiadau’r adroddiad?
Disgrifiodd llawer o bobl brofiadau o gael eu camddeall, cael diagnosis anghywir, neu eu labelu fel “anodd” pan nad oedd anghenion sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth yn cael eu cydnabod. Adroddodd tua 56% o ymatebwyr awtistig nad oedd eu triniaeth anhwylder bwyta wedi’i haddasu oherwydd eu hawtistiaeth.
Roedd yna enghreifftiau o ofal oedd yn addas i awtistiaeth, fel addasiadau synhwyraidd, addasiadau cyfathrebu, a dulliau triniaeth personol, oedd yn gysylltiedig â phrofiadau triniaeth a chanlyniadau gwell.
O safbwynt gofalwyr, dim ond 39% a nododd eu bod wedi derbyn cymorth iddyn nhw eu hunain.
Mae’r argymhellion yn cynnwys canfod yn gynharach, gofal sy’n addas i awtistiaeth, gwasanaethau cydgysylltiedig, hyfforddi staff, a buddsoddi mewn ymchwil a chasglu data.
Fodd bynnag, fel rhywun sydd â phrofiad byw o anhwylder bwyta, bydden i’n dweud, hyd yn oed os caiff yr argymhellion eu gweithredu, bydd problemau ar ôl i’w datrys mewn perthynas â chael mynediad at ofal sy’n mynd y tu hwnt i’r argymhellion a wnaed.
“Nes y bydd gwybodaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth ac anhwylderau bwyta yn gyffredin, byddwn ni’n dal i weld pobl sy’n betrusgar am geisio gofal oherwydd yr agweddau maen nhw wedi’u profi neu maen nhw’n ofni y byddan nhw’n eu profi.”
Y prif bwyntiau i fi
Pe bawn i eisiau i’r cyhoedd ddysgu un peth o’r adroddiad hwn, dw i’n credu mai rhywbeth a all fod yn berthnasol yn ehangach na chwmpas yr adroddiad ei hun fyddai hynny.
Mae bod yn niwrowahanol yn anodd, ac mae’n anhawster sy’n ategol i unrhyw heriau eraill y mae unigolyn neu gymdeithas yn eu hwynebu.
Mae’r pethau sy’n helpu i ddarparu ar gyfer niwrowahaniaeth yn ymwneud ag adfer cydraddoldeb trwy newid tegwch, hynny yw: rhoi cyfle tecach i’r bobl yma pan fo’r byd a’r systemau mae’n eu defnyddio mor aml “heb eu cynllunio ar fy nghyfer i”.
Dywedodd Dr Sam Chawner, arweinydd astudiaeth ARFID ac awdur ac adolygydd yr adroddiad:
“Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl awtistig ag anhwylderau bwyta yn ymdrin yn rhy aml â gwasanaethau nad ydynt wedi’u cynllunio gyda’u hanghenion nhw mewn golwg, er bod y dystiolaeth yn dangos yn glir bod awtistiaeth ac anhwylderau bwyta yn aml yn gorgyffwrdd, ond mae’r gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth yn parhau i fod yn anghyson.
“Mae’n darparu sylfaen dystiolaeth gref ac enghreifftiau ymarferol o arfer da sy’n dangos bod newid ystyrlon yn gyraeddadwy. Yr her yw sicrhau bod y dulliau hyn yn dod yn safonol ar draws gwasanaethau, yn hytrach na dibynnu ar eu cod post neu glinigwr.”
Diolch i John am rannu ei brofiadau ac am ei werth parhaus gyda grŵp ARFID Connect
Rhagor o wybodaeth
- Darllenwch yr adroddiad
- Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil ARFID yma yn NCMH