Posted September 14th 2021
Dros y deng mlynedd diwethaf, rydych wedi gwirfoddoli drwy rannu eich profiadau, ysgrifennu blogiau, cynrychioli NCMH mewn digwyddiadau a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, yr ydym mor ddiolchgar amdanynt.
Diolch i dros 24,000 ohonoch rydym wedi datblygu ein dealltwriaeth o achosion problemau iechyd meddwl, gan ein galluogi i ddatblygu, astudio a threialu ymyriadau newydd ym maes iechyd meddwl megis triniaethau ar gyfer PTSD ac anawsterau iechyd meddwl mamau.
I ddathlu ein cyflawniadau ar y cyd ac amlinellu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, rydym yn cynnal gweminar ddydd Mawrth 12 Hydref 2021 am 1yp am brynhawn o sgyrsiau gan dîm NCMH.
Rydym hefyd mor falch o’r hyn y mae pawb wedi gallu ei gyflawni dros y flwyddyn a hanner diwethaf gyda sut mae COVID-19 wedi effeithio ar sut rydym yn gweithio, ac eto rydym yn parhau i ymdrechu i:
Hyrwyddo ymchwil iechyd meddwl ac anabledd dysgu yng Nghymru.
Ymgysylltu â chleifion, eu teuluoedd, y cyhoedd ehangach a sefydliadau’r trydydd sector i gynyddu dealltwriaeth o salwch iechyd meddwl a’r angen am ymchwil.
Newid yn y diwylliant ymchwil mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Cofrestrwch i ymuno â ni ar-lein.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein helpu ar ein taith hyd yn hyn.