Posted May 11th 2026
Mae tîm Datblygu Ymyriadau’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) yn arwain rhaglen ymchwil sy’n ehangu mynediad at ofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth wella canlyniadau i bobl sy’n byw gydag anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) a chyflyrau eraill sy’n gysylltiedig â thrawma.
Wrth wraidd llwyddiant y tîm mae Spring PTSD, ymyrraeth ddigidol gyfeiriedig gyntaf y DU ar gyfer PTSD, a gynhyrchwyd ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd.
Esboniodd Dr Catrin Lewis, ymchwilydd Spring yn NCMH: “Wedi’i ddatblygu trwy raglen ymchwil drylwyr, gan gynnwys astudiaethau peilot, treial ymarferoldeb a hap-dreial rheoledig aml-ganolfan mawr, dangoswyd bod Spring PTSD yr un mor effeithiol â therapi gwybyddol ymddygiadol wyneb-yn-wyneb sy’n canolbwyntio ar drawma, gyda buddion yn dal i’w gweld ar ôl blwyddyn.
“Mae’r sail dystiolaeth gref hon wedi arwain at gydnabyddiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), a argymhellodd yr ymyrraeth i’w defnyddio o fewn y GIG, sy’n garreg filltir bwysig ar gyfer therapi digidol a ddatblygwyd gan brifysgol.”
Mae effaith y tîm yn ymestyn y tu hwnt i ymchwil i ofal iechyd yn y byd go iawn
Mae Spring PTSD bellach yn cael ei ddefnyddio fel mater o drefn ar draws pob un o saith bwrdd iechyd GIG Cymru, gyda gwerthusiad ar raddfa fawr o bron i 500 o gleifion yn cadarnhau ei fod yn effeithiol, derbyniol a hyblyg mewn lleoliadau clinigol bob dydd. Mae ei gyfieithu i sawl iaith hefyd yn sbarduno mwy o ddefnydd rhyngwladol.
Gan adeiladu ar y sylfaen hon, mae’r tîm wedi datblygu cyfres o ymyriadau digidol newydd wedi’u teilwra i grwpiau sydd wedi’u tanwasanaethu, gan gynnwys cyn-filwyr, pobl ifanc, unigolion â PTSD cymhleth, a’r rhai sy’n profi anhwylder galar hir. Mae un o’r rhaglenni diweddaraf, Spring PGD, wedi’i chreu ar y cyd ag elusennau profedigaeth i sicrhau ei bod yn adlewyrchu safbwyntiau diwylliannol a ffydd amrywiol.
Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr NCMH, “Mae’r fenter NCMH hon yn helpu i ail-siapio’r ddarpariaeth gwasanaethau. Mae mwy na 100 o therapyddion ledled Cymru wedi cael eu hyfforddi i gyflwyno ymyriadau Spring, gan ymgorffori llwybrau gofal digidol mewn ymarfer arferol ac ehangu mynediad at gymorth arbenigol.
“Gyda chynlluniau ar y gweill am gwmni deillio yn y brifysgol, mae ein tîm Datblygu Ymyriadau NCMH yn parhau i wthio ffiniau arloesedd iechyd meddwl digidol – gan atgyfnerthu safle Prifysgol Caerdydd fel arweinydd wrth drosi ymchwil yn effaith gymdeithasol ystyrlon.”
Darllenwch am y rhaglen Spring ddiweddaraf ar dudalen newyddion Prifysgol Caerdydd.