Skip to main content

Mae adolygiad gan ymchwilwyr y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl wedi cyfrannu at drafodaeth ryngwladol ar seicosis ôl-enedigol

Mae adolygiad arbenigol gan banel rhyngwladol, a gafodd sylw yn ddiweddar yn y cyfryngau, yn cyfrannu at drafodaeth ryngwladol ar sut y dylid diagnosio seicosis ôl-enedigol.

Mae seicosis ôl-enedigol yn salwch meddwl difrifol sy’n datblygu o fewn wythnosau ar ôl enedigaeth a gallai beryglu’r fam a’r plentyn ill dau. 

Heb ei ystyried yn ‘anhwylder’ ar hyn o bryd

Er gwaethaf y ffaith bod ganddo sbardun penodol, risgiau eithafol a chael ei gydnabod yn argyfwng clinigol, nid yw seicosis ôl-enedigol yn cael ei rhestru’n anhwylder yn y Diagnostic Statistical Manual (DSM)  – y llawlyfr y mae meddygon yn ei ddefnyddio i enwi a diagnosio cyflyrau iechyd meddwl.

Oedi cyn diagnosis a thriniaeth

Gan nad yw seicosis ôl-enedigol yn cael ei gydnabod yn y DSM, mae’n bosibl y bydd menywod ledled y byd yn cael trafferth cael cymorth amserol a phriodol, fel yr awgrymwyd mewn erthygl ddiweddar yn y New York Times. 

Mae’n dilyn hanes Emily Sliwinski, a wynebodd oedi hir iawn a chamddiagnosis o sgitsoffrenia cyn iddi hi gael ei diagnosio’n gywir, sef seicosis ôl-enedigol, a chael y driniaeth yr oedd ei hangen arni hi.

Mae’r erthygl yn cyfeirio at adolygiad diweddar a gyd-ysgrifennwyd gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, yr Athro Arianna Di Florio a’r Athro Ian Jones – sy’n galw am yr angen i restru seicosis ôl-enedigol ym mhennod anhwylderaudeubegynol y DSM.

Byddai cynnwys seicosis ôl-enedigol yn y DSM yn cynyddu dealltwriaeth o’r anhwylder, gan arwain hwyrach at fwy o gyllid ymchwil a gwell gofal clinigol. 

Dywedodd yr Athro Arianna Di Florio:

“Mae hanes Emily a’r drafodaeth danbaid ynglŷn â chynnwys seicosis ôl-enedigol mewn llawlyfrau diagnostig yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil sy’n dylanwadu ar ymarfer clinigol. Mae diffyg diffiniad a chydnabyddiaeth swyddogol yn creu cylch dieflig: mae diffyg tystiolaeth yn arwain at ddiagnosis a thriniaeth annigonol, sydd yn ei dro yn cyfyngu ar ymchwil bellach. 

Mae ein gwaith yng Nghaerdydd wedi ymdrechu i dorri’r cylch hwn drwy gynnig tystiolaeth dull manylach o ymdrin â’r salwch dinistriol hwn. Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein canfyddiadau yn parhau i wneud gwahaniaeth a gwella bywydau’r rheini yr effeithir arnyn nhw.”

Cymerwch ran yn yr ymchwil

Mae’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl yn ceisio deall rhagor am achosion a sbardunau salwch meddwl difrifol yn ystod beichiogrwydd ac yn dilyn genedigaeth.

Dyma estyn gwahoddiad ichi gymryd rhan os ydych chi wedi cael baban, a’ch bod wedi dioddef, neu beidio, o salwch meddwl difrifol wedi hynny. 

Dysgwch ragor am yr astudiaeth a chymryd rhan heddiw.

Darllenwch yr erthygl 

Darllenwch hanes Emily yn y New York Times.

Darllenwch yr adolygiad

Darllenwch ‘Postpartum Psychosis and Bipolar Disorder: Review of Neurobiology and Expert Consensus Statement on Classification’ yn y Biological Psychiatry Journal. 

Rhagor o wybodaeth

 

Julia Pearce

Mae Julia yn Swyddog Cyfathrebu yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd