Skip to main content

Cymorth iechyd meddwl am weithwyr y GIG yng Nghymru

Rydym yn falch o roi gwybod bod Iechyd i Weithwyr Proffesiynol Cymru (HHP Cymru), gwasanaeth cymorth i bob aelod staff GIG yng Nghymru, wedi ymuno ag Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i redeg gan Brifysgol Caerdydd, bydd gwasanaeth HHP Cymru nawr yn gweithredu o’r Is-adran ochr yn ochr â chanolfannau ymchwil iechyd meddwl sy’n arwain y byd fel NCMH, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI), a Chanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg MRC (MRC CNGG).

Photo of Prof Job Bisson in the Hadyn Ellis Building

Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr HHP Cymru a Dirprwy Gyfarwyddwr NCMH:

Rwy’n falch iawn bod HHP Cymru bellach yn rhan o’r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol.  Byddwn yn gweithio’n agos gyda NCMH i ategu ei ymdrechion ymchwil sy’n arwain y byd gyda gwasanaeth clinigol rhagorol i bobl sy’n gweithio i GIG Cymru.

“Mae HHP Cymru wedi ehangu’n sylweddol yn ystod y pandemig COVID-19, wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan y rhai y mae’n eu cefnogi ac rwy’n hyderus y bydd ei gartref newydd yn hwyluso ei ddatblygiad ymhellach.”

Sefydlwyd HHP Cymru i ddarparu cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim i feddygon yng Nghymru. Ymestynnodd ei gefnogaeth i holl staff y GIG yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws.

Sut gallwch chi gael cefnogaeth

Os ydych chi’n gweithio i’r GIG yng Nghymru a’n dymuno cael cefnogaeth, gallwch atgyfeirio’ch hun ar-lein.

Byddwch yn derbyn ebost o fewn 24 awr gyda dyddiad ac amser eich apwyntiad ffôn gyda Chynghorydd sy’n Feddyg a fydd yn eich asesu ac yn eich cyfeirio at un neu fwy o’r gwasanaethau canlynol:

  • Hunangymorth
  • Cefnogaeth gan gymheiriaid
  • Hunangymorth gydag arweiniad
  • Therapi seicolegol wyneb yn wyneb rhithwir

a white man with a beard uses a laptop balanced on his leg

Sut y gallwch chi wirfoddoli

Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yng Nghymru ac yr hoffech wirfoddoli ar gyfer y gwasanaeth, ewch i HHP Cymru i gael manylion.

Rhagor o wybodaeth

Mike Owen

Mike yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd