Diolch
Diolch am gymryd rhan yn ein hymchwil a bod yn rhan o#TeamNCMH.
Diolch am gymryd rhan yn yr ymchwil. Heb i bobl roi eu hamser yn hael i rannu eu profiadau, ni fyddem yn gallu gwneud y gwaith pwysig rydym yn ei wneud i wella dealltwriaeth o achosion cymhleth Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif.
Roedd y cwestiynau’n ymdrin â rhai pynciau emosiynol a deallwn y gallant weithiau godi atgofion neu deimladau anodd fel tristwch neu ddicter. Gall y wybodaeth isod fod o gymorth os ydych yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol.
Os ydych chi’n poeni am sut rydych chi’n teimlo, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch meddygfa. Byddant ar gael yn ystod oriau swyddfa a gyda’r nos ac ar benwythnosau drwy’r gwasanaeth y tu allan i oriau.
Mae’r sefydliadau canlynol yn cynnig gwasanaethau gwrando, cymorth emosiynol a gwybodaeth am ddim: