Posted August 11th 2025
Mae hyn yn nodi diwedd cyfnod sydd wedi’i ddiffinio gan ragoriaeth wyddonol, arweinyddiaeth weledigaethol ac ymrwymiad dwfn i wella bywydau pobl sydd wedi’u heffeithio gan salwch meddwl.
Caiff ei olynu gan yr Athro Jon Bisson a gymerodd yr awenau yn gyfarwyddwr ym mis Ebrill 2025.
Meddai Jon: “Mae dull arweinyddiaeth hynod fedrus, tosturiol a chynhwysol Ian wedi helpu NCMH i wella ei henw da fel canolfan ragoriaeth ymchwil iechyd meddwl a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae Ian wedi goruchwylio gwaith ymchwil sydd wedi helpu i wella iechyd meddwl a lles pobl, ond mae hefyd wedi cefnogi datblygiad staff NCMH a llawer o rai eraill y mae wedi cydweithio â nhw, sydd bellach yn gwbl ymrwymedig i adeiladu ar ei waith.
Arbenigwr o fri rhyngwladol mewn hwyliau ac iechyd meddwl amenedigol
Mae’r Athro Jones, seiciatrydd ymgynghorol ac arbenigwr o fri rhyngwladol mewn hwyliau ac iechyd meddwl amenedigol, wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio hunaniaeth a chyfeiriad NCMH ers ei sefydlu.
Yn gyntaf, roedd Ian yn ddirprwy gyfarwyddwr o dan arweiniad y cyfarwyddwr sefydledig, yr Athro Nick Craddock; bu’n gyfarwyddwr ar ôl i’r Athro Craddock ymddeol 11 mlynedd yn ôl.
Ers ei sefydlu o dan arweiniad Nick Craddock, bu’n helpu i sefydlu’r ganolfan fel canolbwynt ymchwil o’r radd flaenaf, i gydweithio a chynnwys cleifion.
Mae NCMH yn dod yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil iechyd meddwl
O dan ei arweiniad, daeth NCMH yn un o brif ganolfannau ymchwil iechyd meddwl y DU, gan recriwtio mwy na 30,000 o gyfranogwyr ledled Cymru a thu hwnt.
Roedd yn hyrwyddo dull cydweithredol, cynhwysol a roddodd brofiad byw wrth wraidd ymchwil – gan sicrhau nad oedd lleisiau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cael eu clywed yn unig, ond roeddent yn ganolog i waith y canolfan.
Gwaith arloesol ar anhwylder deubegynol
Ymhlith ei gyflawniadau di-ri, arweiniodd yr Athro Jones waith arloesol ar anhwylder deubegynol, yn enwedig o amgylch seicosis ôl-enedigol – maes y caiff ei ystyried yn eang fel awdurdod byd-eang ynddo.
Mae ei waith ymchwil nid yn unig wedi datblygu dealltwriaeth glinigol ond hefyd wedi gwella canlyniadau i lawer o fenywod a theuluoedd sy’n dioddef salwch meddwl difrifol yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd.

Mae Laura, Hyrwyddwr Ymchwil NCMH, wedi gweithio’n agos gyda’r Athro Jones.
“Rwyf am ddiolch i chi, nid yn unig am bopeth rydych chi wedi’i wneud i NCMH, ond hefyd i mi.
Roeddech chi’n credu ynof fi pan nad oeddwn yn credu ynof fy hun; rydych chi’n ddyn gwirioneddol anhygoel! Mwynhewch y cam nesaf hwn o’ch bywyd a diolch i chi am fod yn rhan mor bwysig ohonof i.
Mae Ian wedi cyhoeddi’n helaeth yn y maes, gyda dros 300 o bapurau gwyddonol i’w enw, ac mae wedi chwarae rhan allweddol mewn sawl rhaglen ymchwil o bwys, gan gynnwys y Rhwydwaith Ymchwil Anhwylder Deubegynol (BDRN) sy’n archwilio rhagfynegwyr biolegol a seicolegol anhwylder deubegynol.
Etifeddiaeth o gynnydd a thrugarha
Mae’r Athro Jones hefyd wedi bod yn fentor ac yn addysgwr ymroddedig, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o seiciatryddion, seicolegwyr ac ymchwilwyr. Mae ei angerdd dros droi gwyddoniaeth yn newid ystyrlon wedi ysbrydoli cydweithwyr ar draws disgyblaethau ac ar draws y byd.
Wrth iddo gamu i lawr o’i rôl arweinyddiaeth yn NCMH, bydd ei effaith yn parhau i gael ei theimlo yng ngwaith parhaus y Ganolfan a’r gymuned iechyd meddwl ehangach.
Mae ei etifeddiaeth yn un o gynnydd, tosturi, a chred ddiysgog ym mhwysigrwydd deall salwch meddwl er mwyn cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt yn well.
Yr Athro Jeremy Hall, cCyfarwyddwr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol Dywedodd: “Mae Ian wedi bod yn arweinydd gwych i NCMH, ond mae hefyd wedi cael effaith enfawr ar fywydau cynifer o bobl trwy ei waith ymchwil ei hun.
Mae ei waith ymchwil ar seicosis ôl-enedigol iselder ôl-enedigol ac anhwylder deubegynol wedi effeithio’n gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl ledled y DU a thu hwnt.
Mae hefyd wedi bod yn eiriolwr angerddol o gynnwys pobl â phrofiad byw mewn ymchwil ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach am bwysigrwydd ymchwil ac arloesi ym maes iechyd meddwl. Bydd colled ar ei ôl ond bydd yn gadael gwaddol parhaol.