Skip to main content

Cydweithrediad newydd gyda Chanolfan GREAT i ddatblygu ymchwil am niwed gamblo

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cydweithrediad newydd rhwng y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) a'r Ganolfan Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo (GREAT) ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd hyn yn cryfhau cydweithio ym maes ymchwil sy'n canolbwyntio ar gamblo a’r niweidiau sy'n gysylltiedig â gamblo.

Er eu bod yn endidau annibynnol o hyd, bydd NCMH a GREAT yn cydweithio’n agosach er mwyn cyflymu ymchwil a datblygu ymyriadau ac ymgysylltiad mewn maes cynyddol bwysig mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd.

 

Angerdd cyffredin dros ddatblygu cefnogaeth a gofal sy’n seiliedig ar ymchwil

Ers blynyddoedd lawer, mae NCMH wedi bod yn datblygu ymchwil am iechyd meddwl ar raddfa fawr. Mae wedi dod â geneteg a mathau eraill o arbenigedd biolegol, arbenigedd cymdeithasol a seicolegol, data sy’n gysylltiedig â’r GIG, a safbwyntiau ar sail profiad byw ynghyd i helpu i atal problemau iechyd meddwl, eu hadnabod yn gynt, a gwella cefnogaeth a gofal drwy ei rhaglen Datblygu Ymyriadau.

Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr NCMH: “Mae NCMH wedi datblygu enw da rhyngwladol am ein hymchwil, yn enwedig ar ddatblygu rhaglenni triniaeth ddigidol ar gyfer cyflyrau sy’n gysylltiedig â thrawma. Mae hyn yn cynnwys y fersiwn ddiweddar o Spring ar gyfer pobl ag anhwylder galar hirfaith”.

Lansiwyd Canolfan GREAT yn 2025, ar ôl sawl blwyddyn o gael cyllid seilwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i gael gwell dealltwriaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â gamblo a’i leihau drwy ymchwil, gwaith polisi ac arloesedd clinigol. Mae gwaith GREAT yn cyfuno arbrofion niwro-ymddygiadol, arolygon, a dulliau trosi clinigol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ymddygiadau gamblo a’r mecanweithiau sy’n sail i niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.

Mae’n rhan o Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Niwed Gamblo UKRI hefyd, ac mae’n cyfrannu at ymdrechion cenedlaethol i wella’r sylfaen dystiolaeth sy’n ymwneud â niwed gamblo a llywio polisïau ac arferion.

Marchnad gamblo sy’n esblygu a phatrymau risg

Mae’r datblygiadau ymchwil hyn yn digwydd yng nghyd-destun marchnad gamblo sy’n esblygu’n gyflym ac yn gwneud llawer o elw, lle mae technolegau digidol a mynediad ar-lein yn parhau i drawsnewid patrymau a risgiau niwed gamblo.

Dywedodd yr Athro Simon Dymond, Cyfarwyddwr Canolfan GREAT:

“Mae’n bleser gennym bod yn gysylltiedig yn ffurfiol â NCMH. Yn ogystal ag arwain y ffordd drwy ddarganfyddiadau ymchwil syfrdanol a datblygu ymyriadau clinigol newydd, mae NCMH bob amser wedi pwysleisio rôl allweddol profiad byw wrth ddeall iechyd meddwl yn well.

Yng Nghanolfan GREAT, profiad byw sydd wraidd yr hyn a wnawn, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â chydweithwyr o bob cwr o NCMH i ddyfnhau dealltwriaeth o’r niwed difrifol sy’n gysylltiedig â gamblo, a’i leihau.”

Mae Canolfan GREAT eisoes wedi dangos yr effaith y mae ei dull o gyd-greu yn gallu ei chael drwy ymgysylltu â Gwasanaeth Niwed Gamblo GIG Cymru sydd newydd ei sefydlu, ymhlith rhanddeiliaid a buddiolwyr eraill.

Sut byddwn ni’n cydweithio

Drwy’r cysylltiad newydd hwn, bydd NCMH a Chanolfan GREAT yn cydweithio ar draws sawl maes, gan gynnwys:

  • Ymchwil epidemiolegol
  • Datblygu ymyriadau i gynorthwyo gwaith canfod, atal a thrin
  • Codi ymwybyddiaeth o effeithiau andwyol posibl gamblo

Daeth yr Athro Bisson i’r casgliad:

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio’n agosach gyda Chanolfan GREAT.  Mae’n gyfle euraidd inni gyd-ddatblygu rhaglen ymchwil sy’n arwain at welliannau mewn iechyd meddwl a lles pobl y mae gamblo yn cael effaith andwyol arnyn nhw.”

 

Julia Pearce

Mae Julia yn Swyddog Cyfathrebu yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd