Skip to main content

Helpwch ni i ddod o hyd i achosion anhwylder dysfforig cyn y mislif a’r hyn sy’n ei sbarduno, a gwella gofal yn y dyfodol

Mae Chloe wedi bod yn ymchwilio i achosion anhwylder dysfforig cyn y mislif (PMDD) a’r hyn sy’n ei sbarduno – dysgwch sut gallwch chi helpu a gwella gofal i bobl a fydd yn cael eu heffeithio yn y dyfodol.

Fy ngwaith ym maes ymchwil iechyd meddwl hormonaidd

Chloe Apsey ydw i ac rwy’n Gynorthwyydd Ymchwil ac yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rwyf wedi gweithio gyda’r Athro Arianna Di Florio ers pum mlynedd ar astudiaeth PreDDICT (Anhwylderau Dysfforig cyn y Mislif: Dangosyddion, Achosion a Sbardunau), sy’n ymchwilio i sut mae amrywiadau hormonaidd yn effeithio ar iechyd meddwl, yn enwedig mewn perthynas ag Anhwylder Dysfforig cyn y Mislif(PMDD).

Beth wnaeth fy nenu at y maes ymchwil hwn?

Datblygodd fy niddordeb mewn iechyd meddwl hormonaidd o brofiad personol a thrwy sylwi ar sut roedd dulliau atal cenhedlu hormonaidd a newidiadau mewn hormonau atgenhedlu yn effeithio ar hwyliau a lles y bobl sy’n agos ataf.

Roedd y newidiadau hyn yn aml yn sylweddol, ac eto, prin roedden nhw’n cael eu cydnabod mewn lleoliadau addysg neu ofal iechyd.

Rhoddodd ymchwil yr Athro Di Florio fframwaith i mi fynd i’r afael â’r profiadau hyn mewn modd gwyddonol. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r ymchwil a’r drafodaeth gyhoeddus yn y maes hwn wedi datblygu, gan amlygu ymhellach bod angen y gwaith hwn ar frys.

Rhwystrau rhag gofal i bobl sydd â PMDD

Un o’r heriau mwyaf i bobl â PMDD yw cael gofal addas. Mae’r addysg ynghylch PMDD ac effaith hormonau atgenhedlu ar iechyd meddwl yn brin o hyd mewn hyfforddiant meddygol.

Oherwydd bod syndrom cyn y mislif (PMS) yn gyffredin, mae difrifoldeb PMDD yn aml yn cael ei gamddeall neu ei ddiystyru, gan adael llawer o unigolion i eirioli drostyn nhw eu hunain.

Mae’n galonogol bod ymwybyddiaeth ac ymchwil yn gwella, ac mae hyn yn dechrau dylanwadu ar drafodaethau clinigol.

 

Mae olrhain symptomau’n bwysig

Mae olrhain symptomau drwy gydol y gylchred fislifol yn hollbwysig. O safbwynt ymchwil, mae’n caniatáu i ni wahaniaethu’n glir rhwng PMDD a PMS.

Yn glinigol, mae’n helpu i adnabod a yw rhywun yn profi PMDD, gwaethygu cyn y mislif, neu anhwylder hwyliau arall.

Nid difrifoldeb y symptomau sydd bwysicaf oll, ond sut mae symptomau’n newid yn ystod y gylchred, a all ddylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â thriniaeth.

Gall olrhain symptomau ar y cyd â’r gylchred fislifol fod yn gam cyntaf pwerus i unrhyw un sy’n amau bod eu hiechyd meddwl yn gysylltiedig â newidiadau hormonaidd. Mae sefydliadau cymorth megis The International Association for Premenstrual Disorders (IAPMD) a The PMDD Project hefyd yn cynnig arweiniad dibynadwy.

Er bod heriau o hyd, mae ymchwil ac eiriolaeth gynyddol yn rhoi gobaith i mi y bydd mynediad at wybodaeth a gofal yn parhau i wella.

Gwnewch wahaniaeth – cymerwch ran yn astudiaeth PreDDICT

Helpwch ni i ddod o hyd i achosion PMDD a’r hyn sy’n ei sbarduno er mwyn i ni helpu i wella triniaethau yn y dyfodol.

Mae’r astudiaeth yn agored i unrhyw un sydd wedi profi PMS difrifol, symptomau neu ddiagnosis PMDD yn ystod eu bywyd. Mae hyn yn cynnwys pobl nad ydyn nhw bellach yn cael mislif oherwydd y menopos neu driniaeth.

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

 

Chloe Apsey

Mae Chloe yn Gynorthwyydd Ymchwil ac yn fyfyriwr PhD i'r NCMH sy'n gweithio ar brosiect PreDDICT.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd