Posted April 15th 2025
Ymyriad addysg seicolegol sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n rhan o’r grŵp Bevan Exemplar yw Rhaglen Addysg Ddeubegynol Cymru (BEPC). Y nod yw gwella ansawdd bywyd pobl sy’n cael eu heffeithio gan anhwylder deubegynol. Mae’r rhaglen yn cefnogi’r rhai sydd wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol, eu ffrindiau, eu teuluoedd neu staff clinigol drwy gynnig cyrsiau addysg seicolegol wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Rhoi’r grym yn nwylo unigolion i reoli eu cyflwr yn well
Mae BEPC yn galluogi unigolion i reoli eu cyflwr yn well trwy ddeall symptomau anhwylder deubegynol, adnabod y pethau sy’n achosi’r symptomau hynny, a monitro eu hwyliau i’w helpu i fod mor iach â phosibl. Y pynciau dan sylw fydd achosion anhwylder deubegynol, defnyddio meddyginiaeth, dulliau seicolegol a ffordd o fyw, monitro hwyliau, adnabod y pethau sy’n achosi symptomau, ac arwyddion rhybudd cynnar.
Caiff ymyriadau addysg seicolegol eu cymeradwyo yng nghanllawiau NICE ar gyfer asesu a rheoli anhwylder deubegynol. Rydym hefyd wedi cael adborth gwych gan bobl sydd wedi cwblhau cyrsiau BEPC.
Er enghraifft, dywedodd 81% o gyfranogwyr eu bod wedi cael gwybodaeth a dealltwriaeth newydd am reoli anhwylder deubegynol. Dywedodd 89% o gyfranogwyr eu bod yn fodlon iawn â’r rhaglen, a dywedodd 96% y bydden nhw’n annog pobl eraill sy’n cael eu heffeithio gan anhwylder deubegynol i gymryd rhan.
Dywedodd John Tredget, cyd-awdur prosiect BEPC a nyrs iechyd meddwl yng Nghaerdydd: “Mae’n fraint cael rhannu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y bobl a gymerodd rhan yn BEPC o anhwylder deubegynol, ac i gael cyfle i gynnig ymyriadau ar sail tystiolaeth i’r nifer fawr o bobl sy’n cael eu heffeithio gan y cyflwr iechyd meddwl parhaus hwn, sy’n gallu bod yn ddifrifol iawn.
Mae hyfforddiant llwyddiannus ym maes addysg am anhwylder deubegynol yn hanfodol
Yn dilyn llwyddiant BEPC ledled Cymru, sydd wedi croesawu dros 850 o bobl dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf, mae’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi y bydd dwy raglen hyfforddi hwyluswyr ar gael ar Dysgu@Cymru a’r ESR ar gyfer grwpiau wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Bydd cyrsiau hyfforddi hwyluswyr BEPC yn cynnig canllawiau ar gynnal y cyrsiau, â’r holl ddeunyddiau hyfforddiant angenrheidiol ar gyfer y rhain sy’n cymryd rhan.
Dywedodd yr Athro Ian Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl a chyd-awdur BEPC: “Bydd hyfforddi clinigwyr eraill i roi grwpiau BEPC ar waith yn sicrhau bod modd i gyrsiau diddorol, difyr a buddiol barhau yn y dyfodol, yn ogystal â gwella sgiliau clinigol a gweithio mewn grwpiau gweithwyr proffesiynol.
I gyrchu cyrsiau hyfforddi hwyluswyr BEPC, ewch i Dysgu@Cymru neu ESR, a chwilio am ‘Deubegynol’; mae’n bosibl i ddefnyddwyr gofrestru ar y cyrsiau heb fod angen côd mynediad.