Skip to main content

Spring ar gyfer anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD)

Mae Spring PTSD yn therapi digidol dan arweiniad wyth cam ar gyfer trin anhwylder straen wedi trawma (PTSD) sy’n gysylltiedig ag un digwyddiad trawmatig.

Yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol gyda ffocws ar drawma (CBT-TF), datblygwyd a mireiniwyd Spring PTSD ar y cyd ag unigolion â phrofiad byw o PTSD ac arbenigwyr blaenllaw yn y maes.

Nod y dull yw lleihau’r angen am gyswllt helaeth â therapydd trwy gyflwyno technegau a gweithgareddau therapiwtig sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ddigidol, gyda chanllawiau a chefnogaeth reolaidd gan therapydd.

 

Strwythur y rhaglen

Mae’r wyth cam yn cynnwys:

Cam 1: Dysgu am fy PTSD

Mae’r cam cyflwyniadol hwn yn rhoi trosolwg o PTSD, gyda phum actor sy’n portreadu cymeriadau yn rhannu eu profiadau personol sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o ddigwyddiadau trawmatig.

Cam 2: Daearu fy hun

Mae cyfranogwyr yn dysgu am dechnegau daearu a’u manteision. Mae’r cam hwn yn cynnwys arddangosiadau ymarferol o ymarferion a gynlluniwyd i helpu unigolion i aros mewn cysylltiad â’r presennol a rheoli emosiynau gofidus.

Cam 3: Rheoli fy ngorbryder

Mae’r cam hwn yn dysgu technegau ymlacio trwy arddangosiadau fideo dan arweiniad. Cyflwynir cyfranogwyr i anadlu dan reolaeth, llacio’r cyhyrau’n raddol ac ymarferion sy’n seiliedig ar ddelweddau i helpu i reoli gorbryder.

Cam 4: Adfer fy mywyd

Mae’r cam hwn yn canolbwyntio ar ysgogi ymddygiadol, gan arwain cyfranogwyr i ailddechrau gweithgareddau yr oeddent yn arfer eu mwynhau yn raddol neu archwilio rhai newydd. Mae’n eu hannog i gymryd camau bach, ymarferol tuag at ailadeiladu eu bywydau.

Cam 5: Dod i delerau â fy nhrawma

Mae’r cam hwn yn cyflwyno therapi amlygiad dychmygol. Mae’r therapydd yn tywys cyfranogwyr i ddechrau eu naratifau trawma eu hunain, y maent yn parhau i’w datblygu ar eu pennau eu hunain. Anogir cyfranogwyr i ymgysylltu â’r naratifau hyn trwy eu darllen am o leiaf 30 munud bob dydd.

Cam 6: Newid fy meddyliau

Cyflwynir technegau gwybyddol i herio meddyliau nad ydyn nhw o unrhyw fudd i neb, a’u hail-lunio.

Cam 7: Goresgyn fy nhuedd i osgoi

Dull strwythuredig o wynebu a lleihau tueddiadau i osgoi sefyllfaoedd bywyd go iawn sy’n gysylltiedig â’r trawma yn raddol.

Cam 8: Cadw fy hun yn iach

Mae’r sesiwn olaf hon yn atgyfnerthu gwersi a ddysgwyd drwy gydol y rhaglen, gan gynnig strategaethau atal cael ail bwl o salwch a chanllawiau ar reoli unrhyw symptomau sy’n codi eto.

 

Nodweddion

  • Cynnwys rhyngweithiol: Mae naratif sain gan bob cam, gyda gwybodaeth allweddol a delweddau yn cael eu harddangos ar y sgrin. Mae mewnbwn cyfranogwyr yn dylanwadu’n uniongyrchol ar yr adborth maen nhw’n ei gael, ac mae sgriniau ychwanegol yn caniatáu i chi lywio’n hyblyg. Mae nodwedd nodi tudalennau yn sicrhau y gall defnyddwyr ddychwelyd yn hawdd i’r man lle gwnaethon nhw adael.
  • Astudiaethau achos cymeriadau: Mae’r rhaglen yn cynnwys pum cymeriad, pob un wedi’i bortreadu gan actorion, yn cynrychioli unigolion â PTSD ar ôl gwahanol ddigwyddiadau trawmatig. Mae cynnwys fideo yn olrhain eu cynnydd trwy bob cam, gan ddarparu enghreifftiau y gellir eu cysylltu o sut y gallai unigolion lywio Spring PTSD.
  • Pecyn cymorth: Mae ardal bwrpasol yn cynnig mynediad hawdd i gydrannau allweddol y rhaglen a gwybodaeth y mae defnyddwyr yn ei mewnbynnu. Mae’r adnoddau’n cefnogi ymgysylltiad â thechnegau CBT-TF, fel creu ysgol ofn ac ysgrifennu naratif trawma manwl.
  • Dangosfwrdd i glinigwyr: Mae’r dangosfwrdd i glinigwyr yn rhoi data amser real i therapyddion ar ymgysylltiad a chynnydd cyfranogwyr drwy’r rhaglen. Mae’r data hwn yn caniatáu i therapyddion deilwra eu cefnogaeth yn ystod sesiynau arwain, gan fynd i’r afael ag anghenion penodol a sicrhau bod cyfranogwyr yn cadw ar y trywydd iawn gyda’r deunyddiau digidol.
  • Gwybodaeth i deulu a ffrindiau: Mae taflen ddefnyddiol ar gael i deuluoedd a ffrindiau, sy’n rhoi gwybodaeth am PTSD a throsolwg o raglen Spring PTSD. Mae’r adnodd hwn yn helpu anwyliaid i ddeall y cyflwr yn well a dysgu sut i gefnogi’r cyfranogwr yn ystod y driniaeth.

 

Canllawiau therapyddion

  • Y cyfarfod cyntaf: Mae sesiwn gyflwyniadol awr o hyd gyda therapydd yn helpu i sefydlu perthynas, asesu hanes trawma’r cyfranogwr, darparu manylion mewngofnodi a chynnig arddangosiad llawn o’r rhaglen.
  • Sesiynau dilynol: Mae pedwar cyfarfod bob pythefnos, pob un yn para 30 munud, yn cynnig cefnogaeth barhaus i gyfranogwyr, gan eu helpu i barhau i ymgysylltu a mynd i’r afael yn effeithiol ag unrhyw heriau y gallent eu hwynebu.
  • Cymorth parhaus: Yn ogystal â’r cyfarfodydd, mae cyfranogwyr yn cael pedwar sesiwn cadw mewn cysylltiad byr dros y ffôn neu e-bost rhwng sesiynau i drafod eu cynnydd, datrys problemau a phennu nodau newydd.
  • Llawlyfr y therapydd: Mae llawlyfr therapydd cynhwysfawr yn sicrhau y gellir cyflwyno’r rhaglen mewn ffordd safonol a strwythuredig. Mae’n rhoi cyfarwyddiadau a chanllawiau manwl, gan alluogi therapyddion i gyflwyno Spring PTSD yn gyson ac yn effeithiol.

 

Hygyrchedd

Mae rhaglen y Spring wedi’i chynllunio i’w defnyddio ar wahanol ddyfeisiau, gan gynnwys cyfrifiaduron personol, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar.

 

Tystiolaeth ategol ar gyfer Spring PTSD

Cyhoeddiadau

Lewis, C., Roberts, N.R., Vick, a Bisson J.I. (2013) Development of a guided self-help (GSH) program for the treatment of mild to moderate post-traumatic stress disorder (PTSD) Depression and Anxiety; 30 (11): 1121 – 1128. 

Lewis, C.et al. 2017. Internet-based guided self-help for post-traumatic stress disorder (PTSD): randomised controlled trial. Depression and Anxiety 34(6), tt. 555-565.

Bisson, J. I. et al. 2022 Guided, internet based, cognitive behavioural therapy for post-traumatic stress disorder: pragmatic, multicentre, randomised controlled non-inferiority trial (RAPID). BMJ 377

Simon, N. et al. 2021. Internet-based psychological therapies: a qualitative study of National Health Service commissioners and managers views. Psychology and Psychotherapy: Theory, Research and Practice 94(4), tud. 994-1014.

Simon, N. et al. 2023. The acceptability of a guided internet-based trauma-focused self-help programme (Spring) for post-traumatic stress disorder (PTSD). European Journal of Psychotraumatology 14(2), rhif erthygl: 2212554.

Lewis, C., Bailey, L., Ariti, C., Kitchiner, N. J., Robertson, N. P., Simon, N. a Bisson, J. I. 2023. Social support as a predictor of outcomes of cognitive behavioral therapy with a trauma focus delivered face-to-face and via guided internet-based self-help. Journal of Traumatic Stress 36(3), tud. 511-523. (10.1002/jts.22947)

Fideos

RAPID: can guided self-help be as effective in treating PTSD? – YouTube

PTSD: Guided Self-help vs Face-to-face Therapy – YouTube

 

 

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd