Skip to main content

Spring ar gyfer anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth (CPTSD)

Mae Spring CPTSD yn therapi digidol dan arweiniad un cam ar bymtheg a gynlluniwyd ar gyfer trin anhwylder straen wedi trawma cymhleth (CPTSD).

Yn seiliedig ar therapi seicolegol o’r enw Hyfforddiant Sgiliau Uwch ar gyfer Rheoleiddio Affeithiol a Rhyngbersonol (ESTAIR), datblygwyd a mireiniwyd Spring CPTSD ar y cyd â phobl sydd â phrofiad byw o CPTSD ac arbenigwyr blaenllaw yn y maes. Nod y dull yw lleihau’r angen am gyswllt helaeth â therapydd trwy gyflwyno technegau a gweithgareddau therapiwtig sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ddigidol, gyda chanllawiau a chefnogaeth reolaidd gan therapydd.

Strwythur y rhaglen

Mae’r un deg chwech o gamau yn cwmpasu:

Cam 1: Deall PTSD Cymhleth

Mae’r cam cyflwyniadol hwn yn rhoi trosolwg o CPTSD, gan gynnwys pum actor sy’n portreadu cymeriadau yn rhannu eu profiadau personol sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o ddigwyddiadau trawmatig.

Cam 2-5: Ymwybyddiaeth emosiynol

Mae cyfranogwyr yn dysgu am ymwybyddiaeth emosiynol, gan ganolbwyntio ar nodi ac adnabod emosiynau. Maent yn archwilio strategaethau ar gyfer rheoli emosiynau trwy’r corff, meddyliau ac ymddygiad.

Cam 6-9: Perthnasoedd

Mae’r camau hyn yn cynnwys archwilio deinameg rhyngbersonol ar draws amrywiol berthnasoedd, gan gynnwys cyfeillgarwch, cysylltiadau teuluol, rhyngweithiadau proffesiynol a phartneriaethau rhamantus. Mae cyfranogwyr yn asesu patrymau eu perthynas ac yn datblygu sgiliau i greu a chynnal cysylltiadau iach.

Cam 10-13: Hunan-gysyniad

Yma, mae cyfranogwyr yn archwilio credoau amdanynt eu hunain a sut mae’r credoau hyn wedi’u llywio gan brofiadau trawmatig. Maent yn ymarfer technegau ar gyfer ail-lunio’r credoau hyn i sefydlu hunanolwg cytbwys a realistig.

Cam 14-15: Adrodd eich stori

Mae cyfranogwyr yn ymgysylltu â’u profiadau trawmatig trwy ailwerthuso eu hystyron ac yn gwneud synnwyr ohonynt. Mae’r camau hyn yn cefnogi’r cyfranogwr i ysgrifennu am eu straeon fel modd o ddeall a gwella.

Cam 16: Edrych tua’r dyfodol

Mae’r cam olaf yn canolbwyntio ar fyfyrio ar y rhaglen gyfan, gan nodi pa sgiliau sydd wedi bod fwyaf defnyddiol. Mae cyfranogwyr yn creu cynllun ar gyfer cymhwyso’r sgiliau hyn wrth iddynt symud ymlaen i’r bennod nesaf yn eu bywydau.

                     

Nodweddion

  • Cynnwys rhyngweithiol: Mae naratif sain gan bob cam, gyda gwybodaeth allweddol a delweddau yn cael eu harddangos ar y sgrin. Mae mewnbwn cyfranogwyr yn dylanwadu’n uniongyrchol ar yr adborth maen nhw’n ei gael, ac mae sgriniau ychwanegol yn caniatáu i chi lywio’n hyblyg. Mae nodwedd nodi tudalennau yn sicrhau y gall defnyddwyr ddychwelyd yn hawdd i’r man lle gwnaethon nhw adael.
  • Astudiaethau achos cymeriadau: Mae’r rhaglen yn cynnwys pum cymeriad, pob un wedi’i bortreadu gan actorion, yn cynrychioli cymeriadau â PTSD ar ôl gwahanol ddigwyddiadau trawmatig. Mae cynnwys fideo yn olrhain eu cynnydd trwy bob cam, gan ddarparu enghreifftiau y gellir eu cysylltu o sut y gallai unigolion lywio Spring CPTSD.
  • Pecyn cymorth: Mae ardal bwrpasol yn cynnig mynediad hawdd i gydrannau allweddol y rhaglen a gwybodaeth y mae defnyddwyr yn ei mewnbynnu. Mae’r offer yn cefnogi ymgysylltu â thechnegau sy’n seiliedig ar ESTAIR.
  • Dangosfwrdd i glinigwyr: Mae’r dangosfwrdd i glinigwyr yn rhoi data amser real i therapyddion ar ymgysylltiad a chynnydd cyfranogwyr drwy’r rhaglen. Mae’r data hwn yn caniatáu i therapyddion deilwra eu cefnogaeth yn ystod sesiynau arwain, gan fynd i’r afael ag anghenion penodol a sicrhau bod cyfranogwyr yn cadw ar y trywydd iawn gyda’r deunyddiau digidol.
  • Gwybodaeth i deulu a ffrindiau: Mae taflen ddefnyddiol ar gael i deuluoedd a ffrindiau, sy’n rhoi gwybodaeth am CPTSD a throsolwg o raglen Spring CPTSD. Mae’r adnodd hwn yn helpu anwyliaid i ddeall y cyflwr yn well a dysgu sut i gefnogi’r cyfranogwr yn ystod y driniaeth.

 

Canllawiau therapyddion

  • Y cyfarfod cyntaf: Mae sesiwn gyflwyniadol awr o hyd gyda therapydd yn helpu i sefydlu perthynas, asesu hanes trawma’r cyfranogwr, darparu manylion mewngofnodi a chynnig arddangosiad llawn o’r rhaglen.
  • Sesiynau dilynol: Mae cyfarfodydd bob pythefnos, pob un yn para 30 munud, yn cynnig cefnogaeth barhaus i gyfranogwyr, gan eu helpu i barhau i ymgysylltu a mynd i’r afael yn effeithiol ag unrhyw heriau y gallent eu hwynebu.
  • Cymorth parhaus: Yn ogystal â’r cyfarfodydd, mae cyfranogwyr yn cael sesiynau cadw mewn cysylltiad byr dros y ffôn neu e-bost rhwng sesiynau i drafod eu cynnydd, datrys problemau a phennu nodau newydd.
  • Llawlyfr y therapydd: Mae llawlyfr therapydd cynhwysfawr yn sicrhau y gellir cyflwyno’r rhaglen mewn ffordd safonol a strwythuredig. Mae’n darparu cyfarwyddiadau a chanllawiau manwl, gan alluogi therapyddion i gyflwyno Spring CPTSD yn gyson ac yn effeithiol.

 

Hygyrchedd

Mae rhaglenni’r Spring wedi’i chynllunio i’w defnyddio ar wahanol ddyfeisiau, gan gynnwys cyfrifiaduron personol, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar. 

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd