Stori Saskia
Myfyrwraig PhD 23 oed ym Mhrifysgol Newcastle yw Saskia. Mae Saskia hefyd yn un o Hyrwyddwr Ymchwil y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, gan helpu i ledaenu newyddion am ein hymchwil. Dyma ei stori hi:
Shwmae, Saskia ydw i. Rwy’n 23 oed ac yn byw yn Newcastle. Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau gwylio a chwarae pêl-rwyd. Rwy ar fin dechrau PhD mewn Seicoleg, gan ganolbwyntio ar ymagweddau trawsddiagnostig at niwroamrywiaeth – maes rwy’n angerddol yn ei gylch ac yn edrych ymlaen at ei archwilio ymhellach.
Dechreuais ddioddef oherwydd fy iechyd meddwl yn 12 oed, gan brofi iselder, gorbryder, hunan-niweidio ac anorecsia. Cymerodd amser hir i gyrchu cymorth – yn rhannol oherwydd fy mod i’n gyndyn i ofyn am help i ddechrau, ond hefyd oherwydd roeddwn i’n aml yn teimlo nad oedd unrhyw wasanaeth yn cydnabod na chefnogi fy anghenion yn llawn. Doeddwn i ddim yn cael fy ystyried yn ddigon sâl i fanteisio ar wasanaethau anhwylder bwyta, ond eto’n rhy gymhleth i dderbyn cymorth iechyd meddwl cyffredinol.
Roedd y blynyddoedd hynny’n anhygoel o anodd a di-drefn. Daeth trobwynt mawr pan gefais ddiagnosis o awtistiaeth o’r diwedd yn 22 oed.
“Fe wnaeth cael diagnosis o awtistiaeth fy helpu i ddeall fy hun yn well, ac fe nododd ddechrau cyfnod mwy sefydlog a hunandosturiol yn fy mywyd.”
Roedd mynd i’r Brifysgol yn fuddiol iawn hefyd. Drwy ddod yn fwy annibynnol a chreu hunaniaeth wahanol i’r un a oedd yn bodoli pan oeddwn i’n sâl, gwellodd fy hyder a fy hunan-ymwybyddiaeth, ac es i ati i greu bywyd sy’n gweithio ar fy nghyfer i.
Dysgais am y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl gyntaf pan oeddwn i yn fy arddegau. Ar y pryd, roeddwn i’n chwilio am gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil yn ffordd o gyfrannu at well dealltwriaeth o’r cyflyrau iechyd meddwl yr oeddwn i’n cael trafferth â nhw. Roedd defnyddio fy mhrofiadau i helpu ymchwilwyr i ddysgu mwy a gobeithio gwella cefnogaeth i eraill yn y dyfodol yn bwysig i mi.
Er enghraifft, fe wnes i gymryd rhan mewn astudiaeth a oedd yn edrych ar iechyd meddwl ymysg pobl awtistig. Roedd yn rhaid llenwi rhai holiaduron, a oedd yn broses gyflym ac yn hawdd i’w gwneud ar-lein.
Byddwn i’n argymell cymryd rhan gan ei fod yn ffordd wych o gyfrannu at ymchwil a helpu i wella dealltwriaeth a chefnogaeth i eraill yn y dyfodol. Mae rhannu profiadau bywyd yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Rwy’n gobeithio y bydd ymchwil y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl yn helpu i wella dealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl ac yn arwain at well diagnosis, triniaeth a chefnogaeth i bobl yr effeithir arnyn nhw.
Hoffwn i weld hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl drwy greu gwasanaethau sy’n fwy effeithiol a hygyrch.