Skip to main content

Rhaglen Addysg Deubegynol Cymru (BEPC)

Cwrs seicoaddysg yw Rhaglen Addysg Anhwylder Deubegynol Cymru (BEPC), a’i nod yw gwella ansawdd bywyd pobl ag anhwylder deubegynol.

Mae’r cwrs yn galluogi unigolion i reoli eu cyflwr yn well drwy ddeall symptomau anhwylder deubegynol, nodi eu sbardunau a monitro eu hwyliau er mwyn eu helpu i aros mor iach â phosibl.

Cynhelir 10 sesiwn ar ffurf grŵp â rhwng 8 a 12 o aelodau. Mae’r sesiynau hyn yn gyfuniad o gyflwyniadau, trafodaethau grŵp anffurfiol ac ymarferion byr. Ymhlith y modiwlau mae:

  • Beth yw anhwylder deubegynol?
  • Beth sy’n achosi anhwylder deubegynol?
  • Y defnydd o feddyginiaeth i drin anhwylder deubegynol
  • Dulliau seicolegol o drin anhwylder deubegynol
  • Materion yn ymwneud â ffordd o fyw ac anhwylder deubegynol
  • Monitro a nodi sbardunau
  • Arwyddion rhybuddio cynnar

Bydd perthnasau a ffrindiau agos aelodau’r grŵp hefyd yn cael dewis dod i sesiwn ychwanegol lle gallant ddysgu mwy am anhwylder deubegynol a chwrdd â phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael gwybod rhagor am y Rhaglen hon, gan gynnwys cyrsiau a gynhelir yn eich ardal, cysylltwch â Rebecca Lynch ar 029 2068 8399 neu anfonwch e-bost i: bepc@cardiff.ac.uk


Cofrestrwch nawr er mwyn gwneud gwahaniaeth
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd