Skip to main content

Rhaglen Iechyd Meddwl Atgenhedlol

Wedi’i leoli yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn gweithio gyda chanolfannau ymchwil o’r radd flaenaf fel Canolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Meddygol, a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH).

Ein cenhadaeth yw deall yn well sut mae digwyddiadau atgenhedlol fel beichiogrwydd,y cylch mislif a heneiddio atgenhedlol yn effeithio ar iechyd meddwl. Yn benodol, mae ein rhaglen ymchwil yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar pam mae rhai pobl yn datblygu salwch meddwl difrifol mewn perthynas â digwyddiadau atgenhedlol ond nad yw hynny’n digwydd gyda rhai eraill.

Dyma rai o’r cwestiynau rydym yn ceisio eu hateb:

  • Pa ffactorau genetig sy’n cynyddu risg rhywun o brofi’r afiechydon hyn?
  • Pa rannau o’ch datblygiad cynnar all gael effaith?
  • Pa amgylchiadau amgylcheddol sy’n gwneud symptomau’n waeth?

Mae ein hymchwil yn bosibl oherwydd grant gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd gan y rhaglen Ymchwil ac Arloesi, Horizon 2020. Dyfarnwyd €1.5m i Dr Arianna di Florio, prif ymchwilydd ein rhaglen, i gynnal yr astudiaeth enetig moleciwlaidd gyntaf o sensitifrwydd seiciatrig i newidiadau hormonau rhyw.

Iechyd meddwl atgenhedlol

Mae salwch meddwl atgenhedlol yn effeithio ar tua 5-15% o fenywod a phobl y nodwyd eu bod yn fenywod adeg eu geni (AFAB) ar ryw adeg yn eu bywydau.

Daw’r rhaglen hon ar adeg arwyddocaol pan fo’r amodau a’r materion hyn yn cael mwy o sylw, ac mae profiadau o ragor o fenywod a phobl AFAB yn cael eu cymryd o ddifrif.

Credwn yn yr arfer o ddod ag arbenigwyr ac unigolion o’r radd flaenaf at ei gilydd sydd â phrofiad personol i fynd i’r afael â’r cwestiynau anodd hyn.

Cymryd rhan

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu gydag amrywiaeth o brosiectau ymchwil.

Trwy gymryd rhan mewn ymchwil, gallwch ein helpu i ddysgu mwy am yr amodau hyn sy’n newid bywydau.

Darllen mwy

Adnoddau

Y tîm

Dr Arianna di Florio, Arweinydd y prosiect
Jessica Yang, Cynorthwy-ydd Ymchwil
Chloe Apsey, Cynorthwy-ydd Seicoleg
Danielle Kitney, Cynorthwy-ydd Seicoleg

Lluniau gan Gemma Chua-Tan a Omar Lopez

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd