Skip to main content

Yr Athro Jon Bisson yw cyfarwyddwr nwydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl

Y mis hwn, yr Athro Jon Bisson fydd Cyfarwyddwr newydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH). Mae'n olynnu'r Athro Ian Jones sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr y ganolfan ers 2014.

Yn ystod ei flynyddoedd yn Gyfarwyddwr, mae Ian wedi llywio NCMH tuag at effaith ymchwil ar lefel y boblogaeth eang, yn enwedig ym maes anhwylderau hwyliau ac iechyd meddwl amenedigol.

Yn y cyfamser, mae Jon wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ac yn arbenigwr trawma, gan arwain datblygiadau hanfodol mewn ymyriadau hygyrch ar gyfer anhwylder straen wedi trawma a chanllawiau trawma ar sail tystiolaeth. Gyda’i gilydd, mae eu cyfraniadau wedi gwneud NCMH yn sefydliad hollbwysig ym maes ymchwil, polisi ac ymarfer iechyd meddwl, yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Jon,

“Bu’n fraint fawr gweithio gydag Ian dros y degawd diwethaf a bod yn dyst i ddatblygiad a thwf NCMH o dan ei arweiniad.  Rwy’n edrych ymlaen at helpu NCMH i barhau i ymgymryd ag ymchwil o’r radd flaenaf i wella iechyd a lles pobl sy’n cael eu heffeithio gan gyflyrau iechyd meddwl.”

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd