Skip to main content

Help gyda’n hymchwil iechyd meddwl mamol

Ynglŷn â’r astudiaeth hon

Rydym yn ceisio deall mwy am achosion a sbardunau salwch meddwl difrifol yn ystod beichiogrwydd ac yn dilyn genedigaeth.

Fe’ch gwahoddwyd oherwydd eich bod wedi cael babi, ac efallai bod hyn wedi’i ddilyn gan gyfnod o salwch meddwl neu beidio.

Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni amdanoch chi, eich cylch mislif a’ch iechyd meddwl er mwyn ein helpu i ateb y cwestiynau ymchwil pwysig hyn.

Rydym hefyd am nodi pobl a fyddai’n fodlon cael eu holi ynghylch cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil iechyd meddwl pellach.

Mae arnom angen cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan a’n helpu i wneud gwahaniaeth.

Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?

Mae cymryd rhan yn wirfoddol: eich cyfrifoldeb chi yw dewis a ydych am gofrestru.

Os byddwch yn ymuno â ni, gofynnir i chi a fyddech yn fodlon:

  1. Rhowch eich manylion cyswllt i ni (e.e. cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) a rhywfaint o wybodaeth bersonol (e.e. dyddiad geni, grŵp ethnig a statws cyflogaeth).
  2. Atebwch rai cwestiynau am brofiadau o salwch meddwl difrifol yn ystod beichiogrwydd ac yn dilyn genedigaeth a’r gofal a’r cymorth a gafwyd. Bydd hyn yn cymryd tua 20-30 munud.
  3. Gadewch i ni gysylltu â chi yn y dyfodol am yr astudiaeth hon ac astudiaethau eraill y gallech fod am gymryd rhan ynddynt. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnoch i gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn yn y dyfodol.
  4. Gadewch i ni gysylltu â chi bob 6-12 mis, i’ch gwahodd i ddarparu mwy o wybodaeth am eich iechyd meddwl a chorfforol a’ch ffordd o fyw.
  5. Gadewch inni rannu gwybodaeth ddienw gydag ymchwilwyr eraill os oes ganddynt gymeradwyaeth wyddonol a moesegol ar gyfer y cwestiynau yr hoffent eu hateb.

Byddwn yn defnyddio eich atebion i wella ein dealltwriaeth o salwch meddwl a helpu i ddod o hyd i well triniaethau yn y dyfodol.

Ar ôl i chi ymuno, gallwch ddewis a ydych am gymryd rhan yn unrhyw un o’r holiaduron, astudiaethau neu ddigwyddiadau y byddwn yn dweud wrthych amdanynt pan fyddwn yn cysylltu â chi.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am fwy o wybodaeth yn gyntaf? Rydym wedi llunio’r atebion i rai cwestiynau cyffredin.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd